Mae arweinwyr bwrdd iechyd yn y gogledd sy’n wynebu argyfwng wedi cael clywed nad yw’n cael ei reoli gan Lywodraeth Cymru.

Mae arweinwyr presennol Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi amlinellu sut y byddan nhw’n llywio’r awdurdod o dan fesurau arbennig, gydag adolygiad arall o wasanaethau fasgwlaidd yn cael ei grybwyll fel rhan o’r cynlluniau.

Fis Chwefror, fe wnaeth Llywodraeth Cymru osod y bwrdd iechyd yn ôl o dan fesurau arbennig oherwydd pryderon difrifol am berfformiad, arweinyddiaeth a diwylliant.

Gwelodd hyn y cadeirydd, yr is-gadeirydd ac aelodau annibynnol y bwrdd yn gadael, ac yn cael eu disodli gan benodiadau dros dro.

Mae’r bwrdd bellach wedi cynnal eu cyfarfod cyntaf ers i Carol Shillabeer gymryd drosodd fel Prif Weithredwr dros dro, wedi iddi gael ei thynnu i mewn o Fwrdd Iechyd Addysgu Powys.

Mae Gill Harris, Prif Weithredwr dros dro’r bwrdd iechyd ar absenoldeb salwch hirdymor ar hyn o bryd.

‘Camau cadarn a chynaladwy’

Rhoddodd Carol Shillabeer ddiweddariad ar fesurau arbennig, gan ddweud eu bod hi wedi’i phlesio gan agwedd staff o fewn y bwrdd iechyd ers iddi gyrraedd dair wythnos yn ôl.

“Dw i wedi fy mhlesio’n fawr gan ymateb cydweithwyr, a’u brwdfrydedd ac ysgogiad wrth ymgymryd â’r gwaith gwelliannau hwn,” meddai.

“Mae’n amlwg fod llawer i’w wneud, ac mae’n bwysig cael y broses yn iawn ar gyfer gwneud y gwelliannau, yn nhermau sicrhau ein bod ni’n cymryd camau cadarn a chynaladwy ar y daith tuag at welliannau.

“Rydyn ni’n gwybod, yn anffodus, fod y sefydliad wedi bod o dan fesurau arbennig neu dan ymyrraeth wedi’i thargedu ers cryn amser, a’m gobaith a’m bwriad i yw cefnogi gwelliant parhaus lle bynnag y galla i fydd yn para amser hir iawn yn y dyfodol.”

Dywedodd y byddai gwaith ar welliannau’n digwydd mewn tri chylch 90 diwrnod yr un, lle gall y bwrdd “ddisgwyl gweld eithaf newid” a chanolbwyntio ar ddeilliannau.

Pryderon

Mae wyth peth sy’n destun pryder o fewn y bwrdd iechyd, sef:

  • llywodraethiant ac effeithiolrwydd y bwrdd
  • datblygiad y gweithlu a’r sefydliad
  • llywodraethiant a rheolaeth ariannol
  • arweinyddiaeth a diwylliant tosturiol
  • llywodraethiant clinigol, a phrofiad a diogelwch cleifion
  • gweithrediadau
  • cynllunio a thrawsnewid gwasanaethau
  • iechyd meddwl

Bydd nifer o adolygiadau annibynnol yn cael eu cynnal, gyda’r cylch 90 diwrnod cyntaf wedi’i labelu’n “gyfnod o sefydlogi”.

Er bod Llywodraeth Cymru wedi rhoi nifer o ymgynghorwyr annibynnol yn eu lle i gefnogi’r bwrdd iechyd, maen nhw’n awyddus i bwysleisio nad ydyn nhw’n rhedeg awdurdod y bwrdd o ddydd i ddydd.

“Dw i jyst eisiau bod yn glir â phawb nad yw Llywodraeth Cymru’n rhedeg y bwrdd iechyd,” meddai Olivia Shorrocks, arweinydd perfformiad, cynyddu ac ymyrryd Llywodraeth Cymru.

“Mae yna ganfyddiad o hyd fod mesurau arbennig yn golygu bod Llywodraeth Cymru’ne i redeg e, ond dydyn ni ddim.

“Rydyn ni yma i helpu, i gefnogi ac i gynghori.

“Bu’n dri mis heriol i bawb, ac rydyn ni’n dal i ddatgelu rhai pryderon a materion nad oedden ni’n sicr yn eu cylch, ac rydyn ni’n dal i ddarganfod pethau.

“Mae’n bwysig nad ydyn ni’n rhuthro’r materion hyn, ein bod ni’n cymryd ein hamser ac yn eu deall nhw.”

‘Nifer o faterion i fynd i’r afael â nhw o hyd’

Dywedodd fod yna nifer o enghreifftiau o arfer da a pherfformiad staff rhagorol sydd wedi cael sylw eisoes, gan gynnwys gwasanaeth iechyd meddwl oedolion y bwrdd iechyd y mae ei berfformiad wedi gwella’n ddramatig dros y misoedd diwethaf.

Ond mae nifer o faterion i fynd i’r afael â nhw o hyd.

“Mae tipyn o sŵn allan yna o hyd,” meddai Olivia Shorrocks wedyn.

“Fe fu’r wasg yn canolbwyntio tipyn yn ddiweddar ar reolaeth ariannol, materion yn cylchdroi ynghylch rheoli a chaffael cytundebau, materion gafodd eu codi â’r crwner a’r ombwdsmon.

“Mae’r bwrdd iechyd yn destun cryn graffu, yn allanol ac yn fewnol.”

Cadarnhaodd hi fod yr Ysgrifennydd Iechyd yn cyfarfod â’r bwrdd iechyd o leiaf ddwywaith y mis, ac ymhlith y gwelliannau maen nhw’n chwilio amdanyn nhw mae gweld rhestrau aros yn gostwng ac amseroedd aros am drosglwyddiadau.

Mae gwasanaethau fasgwlaidd hefyd yn dod yn destun adolygiad unwaith eto, ar ôl i adroddiad damniol gael ei gyhoeddi yn gynharach eleni.

“Rwy’n ofni ein bod ni am gynnal adolygiad arall o [wasanaethau] fasgwlaidd er mwyn rhoi peth sicrwydd i ni yn erbyn rhai o’r pethau lle’r ydyn ni’n gobeithio sicrhau bod popeth yn iawn.

“Mae hynny am ddechrau’n gyflym iawn.

“Mae rhywfaint yn rhagor i’w ddarganfod o hyd.”

Mae disgwyl i ragor o recriwtio ddigwydd o fewn y bwrdd.

“Yr unig beth sy’n rhaid i ni chwilio ar ei gyfer ydy nad yw hyn yn dod yn broses ynddi’i hun, ei bod hi’n tyfu ‘fel ffatri’, ond ein bod ni’n canolbwyntio’n glir ar ddeilliannau a chynnydd, a’n bod ni’n medru dangos hynny’n glir mewn pwyllgorau ac yng nghyfarfodydd y bwrdd.”