Mae Llywodraeth Cymru wedi dyfarnu cyfres o grantiau bach i brosiectau cydweithredol cymunedol er mwyn gwarchod y Gymraeg a’i helpu i ffynnu.

Cafodd grwpiau cymunedol eu cefnogi i wneud cais am gyllid i sefydlu neu gefnogi cwmnïau cydweithredol, mentrau cymdeithasol a phrosiectau tai dan arweiniad y gymuned.

Llwyddodd 21 o geisiadau i gael cyllid.

Cwmpas, asiantaeth ddatblygu sy’n cefnogi cwmnïau cydweithredol a mentrau cymdeithasol, oedd yn rheoli’r grantiau, o’r enw Prosiect Perthyn.

Bydd un o’r prosiectau llwyddiannus yn troi hen gapel yn Sir Benfro, sydd bellach yn eiddo’r gymuned, yn ganolfan dreftadaeth leol a chaffi, ynghyd â dau fflat fforddiadwy.

Prosiect treftadaeth a thai cymunedol yn Hermon yw CarTrefUn, sydd wedi cael £12,500 i ddatblygu’r prosiect hwn.

Mae Prosiectau Cymunedol Aberdyfi Cyf. wedi cael £12,000 tuag at y nod o gefnogi’r Gymraeg yn Aberdyfi drwy greu cymuned economaidd gynaliadwy a llety i bobol leol.

Bydd y cyllid hwn o gymorth wrth iddyn nhw brynu adeilad Garej a Swyddfa Bost Penrhos, sy’n bwysig i’r gymuned am eu bod yn cyflogi pobol leol ac yn darparu llety iddyn nhw.

Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi cymryd camau sylweddol i helpu i sicrhau bod modd rheoli niferoedd ail gartrefi a llety gwyliau tymor byr yn effeithiol.

‘Mae’r Gymraeg yn perthyn i ni i gyd’

“Mae’r Gymraeg yn perthyn i ni i gyd, gan gynnwys pob cymuned yng Nghymru,” meddai Jeremy Miles, Ysgrifennydd Addysg a’r Gymraeg yn Llywodraeth Cymru.

“Rwy’n falch o weld y syniadau creadigol sydd wedi eu cynnig gan grwpiau cymunedol ledled y wlad.

“Bydd y grantiau hyn yn helpu i greu cyfleoedd, yn darparu tai fforddiadwy ac yn helpu i warchod y Gymraeg.”

‘Rhan bwysig o’r dirwedd gymdeithasol ac economaidd’

“Mae mentrau cymdeithasol a chwmnïau cydweithredol dan arweiniad y gymuned yn rhan bwysig o’r dirwedd gymdeithasol ac economaidd yng Nghymru – yn darparu cyfleoedd swyddi da, yn cefnogi economïau lleol ac yn aml iawn yn diogelu asedau cymunedol a gwasanaethau hanfodol,” meddai Vaughan Gething, Ysgrifennydd yr Economi.

“Dyna pam mae eu helpu i ddatblygu a thyfu yn nod allweddol gan Lywodraeth Cymru.

“Rwy’n falch ein bod wedi gallu cefnogi’r prosiect hwn, sy’n chwarae rhan bwysig o safbwynt helpu cwmnïau cydweithredol a mentrau cymdeithasol i gefnogi cymunedau Cymraeg.

“Mae’r ffaith bod y prosiect hwn wedi ei roi ar waith drwy Cwmpas hefyd wedi sicrhau bod y prosiect yn cyd-fynd â’r cymorth ehangach sydd ar gael drwy wasanaeth Busnes Cymdeithasol Cymru, ac yn elwa ar y cymorth hwnnw.”

‘Hwb gwirioneddol’

Mae Cwmpas wedi croesawu’r cyfle i gydweithio er mwyn cyflawni prosiect Perthyn.

“Mae Perthyn yn gweithio gyda chymunedau i ddod o hyd i ffyrdd o fynd i’r afael â diffyg tai fforddiadwy, gwarchod asedau cymunedol a chreu cwmnïau cydweithredol a busnesau cymdeithasol newydd,” meddai Jocelle Lovell, Cyfarwyddwr Cymunedau Cynhwysol Cwmpas.

“Mae gweinyddu cynllun peilot grantiau bach ar gyfer y cymunedau er mwyn helpu i feithrin gallu lleol a sbarduno eu syniadau o ran busnes a thai wedi bod yn hwb gwirioneddol i ni.

“Edrychwn ymlaen at weld y syniadau’n datblygu ac at weithio gyda rhagor o gymunedau dros y misoedd nesaf.”