Mae stondinwyr Marchnad Ganolog Caerdydd wedi bod yn ymateb i’r cynlluniau sydd wedi’u datgelu ar gyfer gwaith adnewyddu gwerth miliynau o bunnoedd.

Byddai’r cynlluniau’n diogelu’r adeilad at y dyfodol, gan adfer y nodweddion dylunio gwreiddiol, gan gynnwys y to, ffenestri gwreiddiol a’r gweddluniau allanol, a gosod paneli solar ar y to, a mwy.

Mae’r cynllun hefyd yn anelu i osod lle bwyta newydd â 70 sedd ar y llawr gwaelod.

Ond o’r lluniau, mae’n ymddangos bod y lle bwyta’n rhedeg trwy ardal lle mae rhes o stondinau yn sefyll ar hyn o bryd.

Dydy Cyngor Caerdydd heb gadarnhau a fydd rhai stondinau’n gorfod gadael y safle, ac mae stondinwyr yn bryderus am y gwaith.

Mae’r cynlluniau’n dibynnu ar sicrhau cyllid a chaniatâd cynllunio.

Os yw’n llwyddo, y disgwyl ar hyn o bryd yw y bydd y gwaith yn dechrau yn ystod haf 2024 ac yn cymryd tua dwy flynedd i’w gwblhau.

‘Gobeithio na fydd y Cyngor yn cael mynd ymlaen efo’r cynlluniau’

Un cwmni sy’n gobeithio na fydd y cynlluniau yn cael eu cymeradwyo yw Yan & Sons Shoe Repairs.

Cafodd eu stondin ei sefydlu yn y farchnad dros ugain mlynedd yn ôl bellach, ac maen nhw’n poeni am eu dyfodol pe bai’r cynlluniau’n cael eu gweithredu.

“Rydyn ni i gyd yn gyffredinol yn bryderus amdano,” meddai perchennog y stondin.

“Rydyn ni newydd adfer o Covid, a nawr mae’n bosib y gallem gael ychydig flynyddoedd eto o gythrwfl.

“Hefyd, mae colli’r stondinau yng nghanol y farchnad i wneud lle i’r byrddau a’r cadeiriau yn mynd i ychwanegu pwysau ariannol pellach ar weddill y perchnogion sy’n gorfod rhannu rhent a thâl gwasanaeth.

“Mae popeth yn tician yn braf ar hyn o bryd felly mae’n drueni amharu ar bethau.

“Wrth siarad â rhai o’r sefydliadau bwyd a ddaeth i’r farchnad yn ystod y pum mlynedd diwethaf tra’n gwneud yn dda i ddechrau, maen nhw’n adennill costau ar y gorau nawr gan fod gormod o gystadleuaeth.

“Yn y bôn rwy’n meddwl bod pawb yn gyfrinachol yn gobeithio na fydd y Cyngor yn cael mynd ymlaen efo’r cynlluniau.”

‘Ddim eisiau iddo droi allan fel Marchnad Casnewydd’

Mae stondin arall yn gweld dwy ochr y geiniog, ac yn teimlo bod gwaith gwarchod a gofalu am y farchnad yn angenrheidiol, ond fod cynlluniau ar gyfer yr ardal fwyta yn annheg ar rai stondinau.

“Mae’r farchnad angen ychydig o waith wedi ei wneud – mae’n teimlo’n angenrheidiol,” meddai rheolwr un stondin, oedd am aros yn ddienw.

“Rydyn ni angen y gwaith yma achos mae’r to mor hen, mae’n rhaid iddo gael ei drwsio.

“Ond y prif beth dw i’n poeni amdano yn bendant ydy fod gwaith adeiladu fel hyn byth yn cymryd faint o amser maen nhw’n dweud mae e am ei gymryd.

“Felly, dw i’n poeni bod y gwaith am fynd ymlaen, ymlaen ac ymlaen, a lladd rhywbeth da sydd gan y farchnad yn mynd ymlaen ar y funud.

“Ond ar yr un pryd, cyn belled â’u bod nhw’n gallu sortio’r gwaith allan mewn da bryd, mi fydd jest yn rywbeth dw i’n meddwl sydd angen ei wneud.”

Fodd bynnag, maen nhw’n ansicr am gynlluniau ar gyfer yr ardal fwyta.

“Beth am y stondinau sydd yno’n barod?” meddai.

“Dw i’n gwybod fel ffaith fod un o’r stondinau yn y rhes yna wedi bod yno ers 40 mlynedd.

“Maen nhw â lle da yno ac wedi sefydlu eu hunain yno.

“Ddylen nhw ddim gorfod symud jest fel bod nhw’n gallu adeiladu ardal fwyta.

“Dydi e ddim yn deg.

“Hefyd, mae yna le i eistedd felly dydw i ddim yn deall pam fod hyn yn angenrheidiol – maen nhw’n ymestyn y llefydd i eistedd i fyny’r grisiau hefyd.

“Dw i’n teimlo bod gweddill y gwaith angen ei wneud ond fod hyn yn ddiangen.

“Gwnewch beth sy’n bwysig yn gyntaf, ac wedyn efallai meddyliwch am hynny yn y dyfodol, unwaith mae’r stondinau sydd yno wedi symud ymlaen.

“Dydyn ni ddim eisiau iddo droi allan fel Marchnad Casnewydd.

“Wnaethon nhw orfodi cymaint o bobol allan efo’r cynnydd mewn rhent.”

Maen nhw hefyd yn poeni am bobol yn manteisio ar yr ardal fwyta.

“Byddwn i’n bryderus os ydy e’n rywle mae pobol yn gallu gosod siop am y dydd,” meddai.

“Efallai y bydden nhw’n bobol sy’n dod i mewn a phrynu ein bwyd, ond efallai y bydden nhw’n dod i mewn jest am ei bod hi’n bwrw glaw ac yn defnyddio’r ardal.”

‘Sicrhau dyfodol hyfyw a chynaliadwy’

“Mae cwsmeriaid wedi bod yn ymweld â Marchnad Caerdydd ers dros ganrif a nod ein cynlluniau adnewyddu helaeth yw sicrhau dyfodol hyfyw a chynaliadwy i’r adeilad, cadw a gwella ei dreftadaeth, a sicrhau ei fod yn parhau yn ganolfan brysur yng nghanol y ddinas am flynyddoedd lawer i ddod,” meddai Russell Goodway, yr Aelod Cabinet dros Fuddsoddi a Datblygu ar Gyngor Caerdydd.

Mae golwg360 wedi gofyn am ymateb gan y Cyngor.