Mae grŵp o arbenigwyr wedi bod yn ceisio barn pobol Cymru ar sut i warchod dyfodol cymunedau Cymraeg.
Mae’r adroddiad yn cyflwyno canfyddiadau galwad am dystiolaeth am sut i gryfhau cymunedau Cymraeg, gafodd ei lansio gyda’r nod o ddod â gwybodaeth, syniadau, a safbwyntiau ynghyd ynghylch sut i gryfhau’r cymunedau hyn.
Daeth yr alwad am dystiolaeth gan y Comisiwn Cymunedau Cymraeg, gyda’r nod o gefnogi eu gwaith ar argymhellion i Lywodraeth Cymru.
Daeth yr alwad ar Dachwedd 8 y llynedd, gyda’r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ymatebion a thystiolaeth ar Ionawr 13, a daeth 179 o ymatebion.
Addysg uwch
Nododd sawl ymatebydd bryderon ynghylch niferoedd y bobol ifanc sydd yn gadael Cymru, a chymunedau Cymraeg yn benodol, er mwyn dilyn addysg uwch.
Roedd nifer o sylwadau yn cefnogi’r syniad o ddilyn trefniadau yn yr Alban, er enghraifft, lle mae polisi a threfniadau ariannol sydd yn cymell pobol i dderbyn addysg yn y wlad honno.
Fe gynigodd Dyfodol i’r Iaith fod angen diwygio system cymorthdaliadau myfyrwyr.
“Dylid mabwysiadu polisi os yw myfyrwyr yn dewis mynd i brifysgol yn Lloegr a Llywodraeth Cymru yn cynorthwyo’r myfyrwyr yn ariannol, eu bod yn dychwelyd i Gymru i weithio am bum mlynedd ar ôl cwblhau’r cwrs, neu fod y cymhorthdal ariannol yn fenthyciad na fyddai angen ei ad-dalu pe bai’r myfyrwyr yn dychwelyd i weithio am bum mlynedd,” meddai’r mudiad.
“Gorau oll, pe bai’r sector cyhoeddus yn gallu eu cyflogi am gyfnod penodol er mwyn cryfhau cyfleoedd gwaith a phrofiad i fyfyrwyr dwyieithog.”
Sicrhau sefydlogrwydd i ffermydd Cymreig
Cyfeiriodd sawl ymatebydd at y nifer uchel o siaradwyr Cymraeg sydd yn gweithio yn y sector amaeth.
Mae gan y sector amaeth yng Nghymru ganran sylweddol uwch (43%) o weithwyr sy’n siarad Cymraeg o gymharu â’r cyfartaledd cenedlaethol (19%), sy’n golygu mai dyma’r diwydiant â’r gyfran uchaf o siaradwyr Cymraeg.
Un cynnig oedd cefnogi ffermydd llai a ffermydd teuluol er mwyn sicrhau sefydlogrwydd iddyn nhw.
“Rhoi ystyriaeth i argymhellion yr adroddiad Iaith y Pridd 2020, yn cynnwys awgrymiadau’n cynnwys “Sicrhau bod polisïau a’r system gymorthdaliadau yn cefnogi gweithgarwch ar y fferm deulu” a “Sicrhau bod y gyfundrefn gynllunio yn cefnogi mentrau a chymunedau gwledig,” oedd barn Menter a Busnes, Cyngor Sir Ceredigion ac NFU Cymru.
Y Gymraeg fel sgil hanfodol mewn sefydliadau cyhoeddus
Bu trafodaeth hefyd am rôl byd gwaith a swyddi i sefyllfa’r iaith mewn cymunedau Cymraeg.
Dadleuodd nifer o sefydliadau y dylid sefydlu’r egwyddor fod yr holl weithlu sy’n gweithio i’r gwasanaethau cyhoeddus yn siroedd Gwynedd, Môn, Ceredigion a Chaerfyrddin yn meddu ar sgiliau dwyieithog.
Cynigiwyd y byddai polisi o’r fath yn codi statws, defnydd ac ymwybyddiaeth o’r Gymraeg o fewn yr ardaloedd hynny a thu hwnt.
“Fel man cychwyn, dylai swyddfeydd ardal, canolfannau hamdden, swyddfeydd cofrestru, llyfrgelloedd a theatrau sector cyhoeddus o fewn ac ar gyrion cymunedau Cymraeg sicrhau gweithlu cyfan gwbl ddwyieithog i allu cyflenwi gwasanaethau cyhoeddus cyflawn Gymraeg i’r trethdalwyr,” meddai Dyfodol i’r Iaith.
Darparu cyfleoedd cymdeithasu
Cyfeiriodd ymatebwyr at ddiffyg cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg yn y gweithle ac yn gymdeithasol.
Roedd ymatebwyr yn credu bod angen mwy o gyfleoedd i gymdeithasu mewn ardaloedd gwledig, a nifer o’r farn y byddai hyn yn helpu o ran cadw pobol ifanc yn yr ardaloedd hynny.
Esboniwyd bod yna draddodiad cryf o sefydliadau sy’n trefnu digwyddiadau a gweithgareddau cymdeithasol (ffermwyr ifanc, tafarndai cymunedol, Yr Urdd ac ati), ond nodwyd hefyd bod angen cefnogi’r grwpiau hyn i wneud mwy er mwyn hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg mewn cyd-destunau cymdeithasol.
“Mae arfogi grwpiau cymunedol, a sicrhau bod gan fudiadau fel yr Urdd a’r Mentrau yr adnoddau digonol i allu cynnig cyfleoedd eang yn allweddol,” meddai Cyngor Sir Gwynedd.
“Mae prinder cyfleoedd cymdeithasol i bobl ifanc yn broblem benodol yn nifer o gymunedau mwy gwledig Gwynedd, er enghraifft, a hynny am fod adnoddau partneriaid fel yr Urdd a’r fenter iaith yn brin, a bod dim posib iddynt gyrraedd pob man lle mae angen cefnogaeth, ac hefyd am fod y Cyngor wedi wynebu toriadau cyllidebol anferthol dros y blynyddoedd.”
Mae crynodeb llawn o’r ymatebion i’w weld yma.