Mae Heddlu’r De wedi cadarnhau bod naw o bobol yn y ddalfa ar ôl cael eu harestio ar amheuaeth o godi terfysg yn Nhrelái.
Daw hyn wrth iddyn nhw barhau i ymchwilio i noson o helynt nos Lun (Mai 22), yn dilyn marwolaethau Kyrees Sullivan a Harvey Evans mewn gwrthdrawiad yn y cyffiniau y noson honno.
Cafodd pump o’r naw eu harestio fore heddiw (dydd Iau, Mai 25).
Cafodd pedwar dyn – sy’n 16, 17, 18 a 29 oed – eu harestio yn yr ardal, a chafodd dyn 21 oed ei arestio yn Nhremorfa.
Cafodd pedwar arall – dau lanc 15 oed ac un llanc 16 oed o ardaloedd Trelái a Llanrhymni, a merch 15 oed o’r Rhath – eu harestio ar y noson.
Maen nhw i gyd ar fechnïaeth wrth i’r ymchwiliad barhau.
Mae’r heddlu’n dweud bod nifer o gerbydau wedi’u rhoi ar dân, fod eiddo wedi’i ddifrodi, fod plismyn wedi’u hanafu a bod “pobol wedi cael ofn yn eu cartrefi eu hunain”.
Mae disgwyl i ragor o bobol gael eu harestio maes o law.
Trafod cymorth i’r gymuned
Yn y cyfamser, fe fydd Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru ac Aelod Llafur o’r Senedd yr etholaeth, yn dwyn ynghyd gynrychiolwyr o’r gymuned ac asiantaethau cyhoeddus i drafod cymorth i gymuned Trelái.
Bydd yn cadeirio’r cyfarfod ynghyd â Jane Hutt, Ysgrifennydd Cyfiawnder Cymdeithasol Cymru.
Hefyd yn bresennol yn y cyfarfod fydd grwpiau cymunedol, gan gynnwys cynrychiolwyr o ACE (Gweithredu yng Nghaerau a Threlái); Kevin Brennan, yr Aelod Seneddol lleol; Alun Michael, Comisiynydd Heddlu’r De; Russell Goodway, Cynghorydd Trelái; y Cynghorydd Huw Thomas; a Paul Orders, arweinydd a phrif weithredwr Cyngor Caerdydd.