Mae £100,000 o arian premiwm treth gyngor ail gartrefi Sir Benfro wedi cael ei roi i grŵp cymunedol i’w helpu i ddarparu tai fforddiadwy.

Yn ystod eu cyfarfod fis Mai, fe wnaeth aelodau o Gabinet Cyngor Sir Penfro ystyried achos busnes gafodd ei gyflwyno gan Ymddiriedolaeth Dir Cymuned Nolton & Roch ar gyfer cymorth ariannol i brynu darn o dir.

“Mae’r [Ymddiriedolaeth] wedi gwneud cais am arian gan y Cyngor tuag at brynu darn o dir ar gyfer tai fforddiadwy,” meddai adroddiad ar gyfer aelodau.

“Mae modd i’r Cyngor ddefnyddio’r Premiwm Treth Gyngor Ail Gartrefi i helpu â datblygiadau tai dan arweiniad y gymuned i gynyddu’r cyflenwad o dai fforddiadwy.”

Darn o dir

Clywodd aelodau fod darn addas o dir, gafodd ei ddewis o blith y chwe darn gwreiddiol ac a allai gynnal 19 o gartrefi, wedi cael ei adnabod gan yr Ymddiriedolaeth sy’n gweithio mewn partneriaeth â Chymdeithas Dai Ateb.

“Trwy’r bartneriaeth hon, y disgwyl yw y bydd Ateb yn ceisio Grant Tai Cymdeithasol tuag at y gost o adeiladu,” clywodd aelodau.

Yn eu cais, dywedodd Ymddiriedolaeth Dir cymuned Nolton a Roch fod perchennog y tir wedi cytuno i werthu’r tir “am bris deniadol iawn”.

Dywedodd fod y gost o fodloni gofynion Llywodraeth Cymru ar gyfer safonau perfformiad ynni, a’r gobaith o adeiladu tai carbon-sero, wedi arwain at obeithion o gefnogaeth ariannol gan y Cyngor Sir i brynu’r safle.

“Rydym hefyd yn gwneud cais am ddigon o arian i gyflogi ymgynghorydd dylunio adeiladau all gefnogi ein CLT yn ystod y prosiect,” meddai.

“Er ein bod yn frwdfrydig ac yn weddol alluog o ran technoleg, does gan ein Bwrdd ddim digon o arbenigedd i ddeall yn llawn y pethau technegol sy’n benodol i’r diwydiant na’r ddeddfwriaeth fanwl.

“Bydd ymgynghorydd profiadol yn helpu i sicrhau bod ein disgwyliadau’n realistig, fod ein barn yn cael ei chlywed yn iawn a’i deall, ac yn bwysig iawn, bydd yn ein helpu ni i ddilyn y prosiect a goruchwylio’i gynnydd.”

Argymhelliad

Daeth argymhelliad fod £100,000 a hyd at £10,000 tuag at gostau cyfreithiol yn cael ei neilltuo ar gyfer caffael tir.

Fe wnaeth aelodau’r Cabinet gefnogi’r argymhelliad yn unfrydol, wrth i’r Cynghorydd Neil Prior, oedd wedi cynnig ei gymeradwyo, ganmol rôl yr Ymddiriedolaeth wrth “ymgymryd â’r fenter”.

Cafodd ei gefnogi gan y Cynghorydd Michelle Bateman.

“Rydyn ni’n gwybod fod yna argyfwng tai yn Sir Benfro, ac mae’n dda iawn gweld grŵp rhagweithiol yn dod ymlaen,” meddai.

Dywedodd ei bod hi’n gobeithio gweld cynigion tebyg mewn ardaloedd eraill.

“Nid dyma’r ateb i’n hargyfwng tai, ond mae’n rhan fach ohono.”