Annwyl Rhian,

Rydw i ar fin dathlu fy mhen-blwydd yn 50 oed ac wedi bod yn cymryd stoc o le dw i arni. O’m rhan fy hun, dw i’n byw yn iach – digon o gerdded, y gampfa bedair gwaith yr wythnos ac mae fy neiet yn gall. Mi fydda i yn cyfri’r calorïau ac yn mwynhau bod yn ofalus o’r hyn sy’n mynd fewn i fy nghorff. Ond mae fy ngŵr wedi mynd i’r pegwn arall yn llwyr. Roedd o’n arfer chwarae pêl-droed a mynd i redeg, ond ers degawd a mwy mae o’n greadur swrth sy’n fodlon pydru ar y soffa. Mae ei ddeiet yn warthus – gormod o gaws, becon, lager a bara. Mae yn twyllo’i hun nad yw yn dew ac yn hoffi brolio nad yw yn bwyta tecawês. Ond wrth iddo yntau ddynesu at yr hanner cant, mae o wedi dechrau wadlo wrth gerdded, ac mae’n edrych fel hen ddyn. Rydw i wedi ceisio crybwyll y ffaith ei fod dros ei bwysau, ond mae’n gwadu bod unrhyw broblem. Wrth i mi gymryd stoc o bethau, a hynny ar adeg sy’n teimlo fel dipyn o groesffordd ym mywydau’r ddau ohonom ni, oes gen i hawl i fynnu bod fy ngŵr yn colli pwysau? Ydw i’n bod yn hen jadan yn dweud: colla’r pwysau neu colla fi…?

Fel mae hi, dydw i ddim yn ei ffansïo… a dydw i ddim yn ffansïo byw gweddill fy mywyd heb yr ochr gorfforol sydd mor hanfodol i briodas hapus. Cyngor plis!

 

 

Mae’n naturiol, wrth i ni gyrraedd pen-blwydd sy’n gorffen efo zero, i ni eistedd yn ôl ac ystyried lle’r ydan ni ac i le’r yda ni’n mynd, ac efo pwy, felly dwi’n synnu dim eich bod chi’n gwneud hyn. Fy ngobaith cyntaf i ydi y bydd eich gŵr yn gwneud yr un peth ac yn gweld yr angen i newid drosto ei hun. Felly be am i chi gychwyn y sgwrs yna efo fo? Gan gychwyn efo edrych arnoch chi eich hun a hynny yn arwain yn naturiol i edrych arno yntau. Dewiswch yr amser i gael y sgwrs yma yn ddoeth – pan fod y ddau ohonoch wedi ymlacio a digon o amser ganddoch a dim byd arall i dynnu eich sylw. Maen nhw’n dweud fod dynion yn medru siarad yn well ysgwydd wrth ysgwydd yn hytrach nag wyneb yn wyneb, felly mi fyddai mynd am dro yn un syniad.

Ond os yda chi methu â’i berswadio i godi oddi ar y soffa i wneud hynny, gallwch gael sgwrs wrth goginio, golchi llestri neu arddio. O roi cyfle iddo feddwl, heb i chi ei feirniadu a dim ond gwrando, hwyrach y dewch chi i ddeall pam mae o wedi cyrraedd y cyflwr yma. A hwyrach hefyd y dewch chi i ddeall pa mor anodd ydi hi iddo fo ddod allan ohono, a faint o gefnogaeth mae o ei angen.

Mae’n swnio fel petai chi’n cael y broses o edrych ar ôl eich corff yn hawdd. Ryda chi hyd yn oed yn mwynhau cyfri’r calorïau! Ond gadewch i mi ddweud wrthych chi, a dwi’n siarad o brofiad, tydi pawb ddim yn ei chael hi mor hawdd  – yn enwedig ar ôl dechrau llithro i’r cyflwr o syrthni ryda chi’n ei ddisgrifio. Ryda ni’n greaduriaid sy’n syrthio’n hawdd i arferiad, ac wedi gwneud hynny, mae’n anodd iawn dod allan o’r arferiad yna. Ond mae yn hollol bosib gwneud – os yda ni yn gweld yr angen. Mae eich gŵr angen gweld yr angen, er ei les ei hun yn fwy nac er eich lles chi.

62% o’r Cymry dros eu pwysau

Mae canran uwch nag erioed o boblogaeth y wlad yma yn ordew a hynny yn arwain at bob math o broblemau iechyd. Mae’r ffigyrau diweddaraf gan Arolwg Cenedlaethol Cymru yn dangos bod 62% o oedolion 16 oed a hŷn yng Nghymru dros eu pwysau neu’n ordew (gyda 25% yn ordew). Mae’r ffigyrau yma yn frawychus ac yn destun sgwrs ynddo’i hun. Dw i wedi bod yn darllen llyfr hynod ddiddorol a dadlennol yn ddiweddar – Ultra Processed People gan Dr Chris Van Tulleken – sy’n esbonio sut mae’r diwydiant bwyd byd-eang wedi newid ein ffordd o fwyta er gwaeth – mi faswn i’n argymell i’ch gŵr ei ddarllen – mae o’n llyfr trwchus ond roedd y penodau cyntaf yn ddigon i mi newid be dw i’n fwyta. Os ydi eich gŵr dal yn methu gweld yr angen i newid ei ffordd yna hwyrach y byddai’n syniad iddo wneud apwyntiad gyda’i feddyg i gael trosolwg o’i iechyd. Mae cyrraedd 50 yn amser da i wneud hyn a hwyrach y byddai clywed cyngor gan feddyg yn fwy effeithiol na chlywed y cyngor ganddoch chi.

Yr un person sydd tu fewn i’r croen

Dw i’n gobeithio y bydd hyn yn ddigon i wneud i’ch gŵr gymryd ei iechyd o ddifri. Wedi dweud hyn dw i ddim yn meddwl fod ganddo ni’r hawl i fynnu fod unigolyn arall yn newid ei ffordd o fyw i’n siwtio ni ac mae eich brawddeg ‘colla’r pwysa neu colla fi…’ yn fy mhryderu. Ai dim ond am ei olygon y syrthio chi mewn cariad gyda’ch gŵr? Achos dw i’n credu fod angen seilia llawer mwy cadarn na hynna i gynnal perthynas hir dymor. Hwyrach y dylech chi atgoffa eich hun o pam y syrthioch chi mewn cariad yn y lle cyntaf, achos yr un person sydd tu fewn i’r croen. Ryda chi’n sôn fod perthynas gorfforol yn hanfodol i berthynas hapus, ond dw i ddim yn credu fod hyn yn hollol wir – tydi o ddim ond yn creu trafferthion pan fo anghenion y ddau yn wahanol. Fy ngobaith arall ydi y byddwch yn dod i ddeall eich gilydd yn well wedi i chi ddechrau trafod yn onest, a hynny eto heb feirniadu.

Os nad ydi hyn i gyd yn gwneud gwahaniaeth yna fy nghyngor olaf i chi ydi i newid geiriad eich wltimatwm i ‘colla bwysa neu mae yna beryg y bydda i yn dy golli di…’ a gweld sut mae’r ddau ohonoch yn teimlo o glywed hynna.