Yn y cylchgrawn yr wythnos hon rydym yn dal i ryfeddu at rai o ddoniau Eisteddfod yr Urdd Meifod.

Bu Non Tudur ar y maes yn holi Cadi Glwys, merch ifanc o fro’r brifwyl fu yn cystadlu ar y delyn, y sioe gerdd, y fonolog, yr alaw werin, clocsio, dawnsio gwerin, a chanu mewn côr.

Dychmygwch yr oriau o ymarfer a’r ymroddiad ar gyfer y ffasiwn gamp, a does ryfedd mai Cadi gafodd Ysgoloriaeth yr Eisteddfod eleni, am fod y cystadleuydd mwyaf addawol yn yr oedran dan 19 oed.