Mewn noson i wobrwyo rhai o sêr prif gynghreiriau Cymru, Seren Watkins, chwaraewr canol cae tîm Dinas Caerdydd, gafodd y tlws Chwaraewr y Tymor yn Uwch Gynghrair y Merched eleni. Fe lwyddodd i ennill y trebl hanesyddol gyda’i chlwb.

Yr asgellwr Sion Bradley yw Chwaraewr y Tymor yn Uwch Gynghrair y Dynion. Fe lwyddodd yntau i greu hanes drwy helpu Caernarfon i gymhwyso ar gyfer chwarae yn Ewrop am y tro cyntaf.