Roedd yna amser yn ystod ail hanner Gibraltar yn erbyn Cymru pan es i’r gegin i wneud paned. Tra’r oeddwn i yna , wnes i chwilio am gaws yn y ffrij a wnes i gymryd ychydig o gracyrs i fynd efo’r Brie, y Stilton, a’r Cheddar. Wnes i gymryd digon o amser i roi menyn ar y cracyr hefyd. Yn lot rhy fuan, roedd y tegell wedi berwi ac roedd y cracyrs a chaws yn barod. Yn anffodus wedyn, doedd yna ddim byd arall i stopio fi rhag dychwelyd i fy lle o flaen y teledu i wylio gêm hollol, hollol boenus.