Y Wern oedd enw’r lle tan y llynedd. Roedd Helen yn cadw atgofion am yr hen le yn ddwfn yn ei meddwl – Y lliain bwrdd rhosod gleision oedd ar fwrdd y gegin; Yr arogl patchouli oedd yn ysgafn bersawrus ar y soffa a’r llenni; Mrs Ellis yn tynnu teisen blât o’r ffwrn, ac yn ei dorri’n drionglau tew, y gwsberis a’r siwgr tu mewn yn disgleirio fel tlysau tewion. Mae hi’n cofio llais Mrs Ellis hefyd, a’i chwerthiniad iach. Roedd hi’n chwerthin yn aml. Roedd Helen wedi bod yn lwcus i gael ei m