Yn ddyddiol fe glywn am yr erchylltra yn Gaza. Fe welwn brotestiadau cyson yn galw ar Israel i ddod â’r rhyfel i ben, a hynny yn Llundain a hefyd yng Nghaerdydd.

Gwelsom Muslim Vote yn gosod amodau ar y Blaid Lafur o ran yr etholiad cyffredinol – gan gynnwys bygwth gwrthod pleidleisio i’r blaid oni bai fod Keir Starmer yn ymddiheuro am ‘gefnogi hil-laddiad’, cydnabod gwladwriaeth Palesteina – a gosod sancsiynau ar Israel.

Gyda’r sylw i Gaza, gallech feddwl mai dyma’r unig fan lle mae Mwslemiaid yn dioddef yn y byd.

Ond nid dyma’r gwir amdani. Mae ’na nifer fawr o wledydd lle mae Mwslemiaid yn cael eu herlid – a hynny ymhell cyn i’r rhyfel ddechrau yn Gaza.

Er enghraifft:

1. Yn China mae miliynau o Fwslemiaid Uighur yn dioddef erchyllter treisgar a dieflig diolch i benderfyniad y llywodraeth i’w caethiwo mewn gulags ar hyd a lled y wlad. O gyrraedd yno, maent yn colli pob hawl dynol ac yn wynebu pwysau ac artaith er mwyn eu gorfodi i droi cefn ar eu crefydd a’u traddodiadau. Mae hyn yn cynnwys eu gorfodi i fwyta cig moch ac yfed alcohol. Mae llywodraeth China yn eu galw’n derfysgwyr.

2. Yn Myanmar mae’r Mwslemiaid Rohingya yn cael eu herlid gan luoedd arfog a heddlu’r wlad. Mae’r hyn sy’n digwydd yno wedi ei ddisgrifio gan y Cenhedloedd Unedig, y Llys Troseddau Rhyngwladol a nifer o lywodraethau’r byd fel hil-laddiad a glanhau ethnig.

3. Yn India mae yna hen hanes o erlid Mwslemiaid, wrth iddynt gael eu lladd gan gangiau Hindŵaidd treisgar. Enghraifft ddiweddar oedd y lladdfa o Fwslemiaid yn Gujarat yn 2002, lle yr honnir mai Narendra Modi, Prif Weinidog India, fu’n trefnu’r trais.

4. Ymlaen i’r Yemen lle bu Sawdi Arabia a’r Emiradau Arabaidd Unedig wrthi’n lladd degau o filoedd o Fwslemiaid Yemeni tra’n sicrhau fod miliynau yn ychwanegol yn marw o newyn.

5. Ac yn Syria, bu Bashar al-Assad, gyda chefnogaeth Rwsia ac Iran, yn gyfrifol am ladd cannoedd o filoedd o Fwslemiaid tra’n gyrru’r rhai na laddwyd i wersylloedd ffoaduriaid y tu hwnt i’r wlad.

6. Cofier hefyd am ymgyrchoedd gwlad Twrci yn erbyn y pobl Cwrdaidd. Ers 1984 lladdwyd 40,000 o Fwslemiaid Cwrdaidd gan filwyr Twrci; pobl gyffredin yn bennaf.

7. Yn y cyfamser, mae Mwslemiaid yn Iran, yr Aifft a Sawdi Arabia yn byw o dan gyfundrefnau gormesol wedi eu harwain gan unbeniaid didostur – heb unrhyw hawliau dynol.

 

Mae’n rhyfedd, felly, na welwn y rheini sy’n protestio am Gaza hefyd yn protestio am y miliynau o Fwslemiaid sy’n cael eu lladd a’u herlid yn y mannau uchod.

Efallai mai un esboniad am hyn yw bod Israel yn wlad Iddewig. Wedi’r cyfan, mae barn Mwslemiaid am Iddewon yn negyddol iawn. Cyn y rhyfel, dim ond 4% o Fwslemiaid Twrci, 3% yn Lebanon, 2% yn yr Aifft a 4% o’r rheini sy’n byw yn nhiriogaethau Palesteina oedd yn mynegi unrhyw farn bositif amdanynt (Canolfan Ymchwil Pew).

Roedd rhai o’r rheini fu’n protestio yn erbyn rhyfel Gaza yn cario arwyddion ‘Dirty Jews’ tra bu eraill, yn dilyn ymsodiad Hamas ar 7 Hydref (ond cyn i Israel ymosod ar Gaza) yn canu ‘Gas the Jews‘.

I eraill, mae perthynas Israel gyda’r gorlllewin yn ddigon i’w damnio, gan gynnwys y farn nad oes gan Israel yr hawl i fodoli – sy’n esbonio’r gân ‘from the river to the sea’.

Ond pam nad oes protestio am, er enghraifft, y driniaeth o Fwslemiaid Uighur yn China? Efallai fod cefnogaeth China dros greu Palesteina annibynnol yn esboniad. Ac efallai bod cefnogaeth Iran i Hamas yn esbonio’r diffyg protestio am y wlad honno’n erlid a lladd menywod ifanc.

Ac, wrth gofio ymddygiad didostur llywodraethau Iran, Syria, Sawdi Arabia, y Taliban yn Afghanistan – a mwy – a oes unrhyw un wir am weld sefydlu Palestinia ‘rydd’ wedi ei lywodraethu gan unbeniaid Hamas – heb hawliau i’w phobol, yn enwedig menywod – a lle bydd pobl hoyw yn cael eu lladd?

Mae’r anghysondebau’n ddiddorol.