Dw i’n un sydd yn eithaf hoff o chwaraeon, ac yn bachu ar unrhyw gyfle i wylio chwaraeon byw neu uchafbwyntiau ar y teledu.

Mi fydda i wastad yn meddwl ei fod o’n arwydd o raglen dda os ydi testun nad oes gennych chi fawr o ddiddordeb ynddo yn llwyddo i ddal eich sylw. Dydw i erioed wedi teimlo’r awydd i daflu fy hun i lawr llethrau mynydd ar gefn beic, ond bois bach, fe wnes i fwynhau gwylio RED BULL Hardline Cymru ar S4C nos Sadwrn.