Nid yw Uwch Gynghrair Cymru wedi cael pethau’n hawdd ers ei ffurfio 32 mlynedd yn ôl. Mae wedi cael ambell i Oes Aur dros y blynyddoedd, wrth gwrs. Rydw i’n meddwl yn bennaf am gyfnod llwyddiannus y Barri yn y 1990au, a’r gystadleuaeth rhwng Llanelli, TNS, Bangor a’r Rhyl yn negawd gynta’r ganrif yma.

Ond does yna ddim amheuaeth bod y gynghrair wedi mynd yn fflat yn ddiweddar. Mae’r Seintiau wedi dominyddu, ac mae’r fformat o ddim ond 12 o glybiau wedi diflasu’r cefnogwyr.