Mae Cymru oddi cartref yn Reykjavik nos Wener, ac yna’n herio Montenegro yn y brifddinas ar y nos Lun ganlynol…

Yr adeg yma o’r flwyddyn yw nefoedd y dilynwr pêl-droed rhyngwladol. Mae’r gemau’n rheolaidd a chwta fis ers i Craig Bellamy ddechrau ei yrfa fel rheolwr Cymru gyda phedwar pwynt o’i ddwy gêm agoriadol, mae hi’n ffenestr ryngwladol unwaith eto, a thrip i Wlad yr Iâ a gêm gartref yn erbyn Montenegro yn ein haros.

Y garfan

Wrth edrch ar y garfan a does dim ond un lle i ddechrau. Joseph. Michael. Allen. Ydi, mae Pirlo’r Preseli yn ei ôl, ddeunaw mis ar ôl cyhoeddi ei ymddeoliad o bêl-droed rhyngwladol. Roedd sïon fod chwaraewr canol cae Abertawe yn cael ei ystyried unwaith eto yn frith hyd yn oed cyn y newyddion y byddai’r chwaraewyr canol cae profiadol, Aaron Ramsey ac Ethan Ampadu, yn methu’r gemau hyn gydag anaf. Tyfu a wnaeth y sïon hynny wedyn a chadarnhawyd y gyfrinach leiaf cyfrinachol yng Nghymru pan gyhoeddodd Bellamy ei garfan yn Sain Ffagan ddydd Mercher diwethaf.

Mae Joe Allen yn arwr i bob cefnogwr Cymru ond nid pawb sydd yn falch o’i weld yn ôl serch hynny. Mae ambell un yn pryderu am ei ddiffyg munudau i Abertawe’r tymor hwn ac eraill yn teimlo fod y chwaraewr 34 mlwydd oed yn cymryd lle chwaraewr iau yn y garfan. I’r perwyl hwnnw, Charlie Savage yw’r un a ddylai fod fwyaf siomedig siŵr o fod, mae o wedi bod yn chwarae’n rheolaidd ac yn dda i Reading yn yr Adran Gyntaf y tymor hwn. Felly hefyd Lee Evans i Blackpool ond mae o’n 30 a byddai ei gynnwys ef wedi bod yn fwy o sioc.

O’r tu allan, byddai rhywun yn dyfalu mai yno ar gyfer ei brofiad y mae Joe bach ac mai rhyw drefniant tymor byr fydd hyn. Ond wrth siarad â’r wasg roedd Bellamy yn amlwg yn gweld rôl bwysig i Allen ar y cae ac yn darogan y gallai barhau i chwarae hyd at Gwpan y Byd ym mhen dwy flynedd. Mae’n ddifyr gwrando ar Bellamy yn trafod ei chwaraewyr, mae o’n sôn cryn dipyn am broffil, hynny yw, y math o chwaraewyr ydyn nhw, a hefyd pethau fel eu deallusrwydd pêl-droed, eu “football intelligence”. O ystyried hynny, fawr o syndod fod Allen yn apelio.

Chwaraewr arall sydd yn dychwelyd wedi cyfnod hir allan o’r garfan yw cefnwr Sheffield United, Rhys Norrington-Davies. Mae o wedi dioddef dwy flynedd anffodus iawn o ran anafiadau ac mae’n hyfryd gweld y llanc o Geredigion yn ôl i gynnig opsiynau ar ochr chwith yr amddiffyn.

Un arall sydd wedi bod y absennol o garfan Cymru ers tro, ac un yr oedd sawl un yn darogan ei weld yn dychwelyd y tro hwn, oedd Tom Lawrence. Nid yw’r ymosodwr wedi chwarae i’w wlad ers tair blynedd a hanner ond mae o wedi bod yn serennu i’w glwb Rangers y tymor hwn. Cafodd Bellamy ei holi amdano yn y gynhadledd i’r wasg ac roedd yn amlwg o’i ateb fod Lawrence yn agos y tro hwn a’i fod yn sicr ar radar Cymru unwaith eto, wedi blynyddoedd yn y gwyll.

Mae’r safleoedd ymosodol yn fwy cystadleuol na chanol cae wrth gwrs ac mae gennym dipyn mwy o ddyfnder yn y rhan hwnnw o’r cae. Cymerwch y tri arall sydd yn dychwelyd i’r garfan y tro hwn ar ôl methu’r ddiwethaf gydag anafiadau. Gall Bellamy alw ar dri chwaraewr o Uwch Gynghrair Lloegr yn David Brooks, Wes Burns a Nathan Broadhead. Roedd y gair hwnnw, ‘proffil’, yn amlwg iawn unwaith eto wrth i’r rheolwr ganmol y triawd, eu bod yn chwaraewyr ymosodol, ia, ond pob un fymryn yn wahanol ac yn cynnig rhywbeth gwahanol i’r garfan.

Golyga anafiadau fod Bellamy wedi gallu dod â Norrington-Davies, Allen, Brooks, Burns a Broadhead i mewn heb ollwng nifer o chwaraewyr fel petai. Mae anafiadau Ampadu, Ramsey a Rabbi Matondo yn golygu mai Charlie Crew a Rubin Colwill yw’r unig ddau sydd wedi colli eu llefydd yn y garfan. Ond ychwanegiadau hwyr oedden nhw’r tro diwethaf pryn bynnag ac mae’r ddau yn ôl yn y garfan dan 21 y tro hwn, sydd â gêm bwysig iawn eu hunain, yn erbyn y Weriniaeth Tsiec ddydd Gwener.

Gwrthwynebwyr

Wel, rydym yn gwybod eithaf tipyn am Montenegro, a ninnau wedi eu hwynebu oddi cartref gwta fis yn ôl a sicrhau buddugoliaeth 2-1. Go brin y bydd llawer wedi newid ganddyn nhw yn y cyfamser, er y bydd y gêm hon yn cael ei chwarae mewn amodau cwbl wahanol i’r dilyw yn Niksic.

Un o’u chwaraewyr sydd wedi bod yn y newyddion am y rhesymau anghywir ers hynny ac un a fydd yn gyfarwydd iawn i’n cefnwr ifanc ni, Owen Beck, yw Milutin Osmajic. Derbyniodd blaenwr Preston a Montenegro wyth gêm o waharddiad gan FA Lloegr yr wythnos diwethaf yn dilyn digwyddiad ychydig wythnosau yn ôl pan fu iddo frathu Beck ar ei war tuag at ddiwedd gêm ddarbi danllyd rhwng Preston a Blackburn!

Ni wnaeth hynny ei atal rhag cael ei enwi yng ngharfan ddiweddaraf ei wlad serch hynny, a phwy a ŵyr, efallai y gwelwn ni ef a Beck ar y cae gyda’i gilydd unwaith eto yn Stadiwm Dinas Caerdydd. Fe chwaraeodd o chwarter awr olaf y gêm gyfatebol ym mis Medi, tra’r oedd Beck yn eilydd heb ei ddefnyddio ar fainc Cymru.

Cyn y gêm gartref yn erbyn Montenegro, rhaid teithio i Wlad yr Iâ, ble y bydd hi, yn naturiol iawn, yn oer a rhewllyd. Mae’r rhagolygon tywydd ar hyn o bryd yn ei gaddo hi’n sych a chlir dros y penwythnos, ond bydd y tymheredd yn debygol o blymio tua’r rhewbwynt erbyn y gêm gyda’r nos. Yn wir, mae gan Wlad yr Iâ ddwy gêm gartref yn y ffenestr ryngwladol hon, yn croesawu Türkiye ychydig ddyddiau ar ôl ein hwynebu ni. A hynny gan fod rheol ‘gwledydd gaeafol’ UEFA yn eu rhwystro rhag chwarae gemau cartref ym mis Tachwedd!

Daeth cyfnod mwyaf cofiadwy tîm pêl-droed Gwlad yr Iâ, yn debyg iawn i Gymru, yn Ewro 2016. Cyrhaeddodd y Llychlynwyr wyth olaf y gystadleuaeth honno yn dilyn buddugoliaeth enwog yn erbyn Lloegr. Nid ydynt yn gystal tîm erbyn heddiw ond mae ambell wyneb cyfarwydd yn y garfan o hyd.

Mae cyn-chwaraewr Abertawe, Gylfi Sigurdsson, bellach yn 35 oed ac yn chwarae ei bêl-droed clwb yn ôl yn ei famwlad, gyda Valur, ar ôl gadael Everton o dan gwmwl ddwy flynedd yn ôl. Safon debyg i’r Cymru Premier sydd i’r gynghrair yng Ngwlad yr Iâ a Sigurdsson yw’r unig chwaraewr o’r gynghrair ddomestig yn y garfan genedlaethol ar hyn o bryd. I gadw’r ddysgl yn wastad, mae cyn-arwr Caerdydd, Aron Gunnarsson, yn chwarae o hyd hefyd, yn Qatar mae o ond nid yw wedi bod yn y garfan genedlaethol ers blwyddyn.

Mae’r capten, Johann Berg Gudmundsson yn chwaraewr profiadol digon taclus ond gobaith mawr Gwlad yr Iâ i’r dyfodol yw blaenwr ugain oed Real Sociedad, Orri Oskarsson. Ac os yw cyfenw Andri Gudjohnsen yn gyfarwydd, mae o’n dilyn ôl traed ei dad, Eidur Gudjohnsen, a’i daid, Arnor Gudjohnsen, yn chwarae dros ei wlad.

Wedi cyfnod o chwarae yn eu herbyn droeon yn yr 1980au cynnar, nid ydym wedi wynebu Gwlad yr Iâ yn aml iawn ers hynny. Tair gêm gyfeillgar yn unig sydd wedi bod ers y gêm gystadleuol ddiwethaf ddeugain mlynedd yn ôl. Mae dros ddeg mlynedd ers y ddiwethaf o’r rheiny, buddugoliaeth o dair gôl i un yn Stadiwm Dinas Caerdydd. Gêm sydd yn cael ei chofio gan iddi gynnwys un o goliau gorau Cymru erioed. Ydych chi’n cofio Gareth Bale yn rhedeg oddi ar y cae i fynd heibio amddiffynnwr ar yr asgell cyn carlamu’r holl ffordd at y gôl? Fe wnaeth o’n union yr un peth i Real Madrid fis yn ddiweddarach yn erbyn Barcelona yn rownd derfynol y Copa del Rey.

Byddai un o’r rheiny gan Brennan Johnson y tro hwn yn berffaith, diolch.

 

Gwlad yr Iâ v Cymru yn fyw ar S4C nos Wener, y gic gyntaf am 7.45

Cymru v Montenegro yn fyw ar S4C nos Lun, y gic gyntaf am 7.45