Mae yna lond trôns XL o gigs yn Gaerdydd yr wythnos nesaf, ac mae Efa Ceiri wedi bod i holi ambell wyneb adnabyddus sydd am fod yn codi llais ar lwyfan…

Ers ei sefydlu nôl yn 2007 gan y cyflwynydd radio Huw Stephens a’r hyrwyddwr gigs o Gaerdydd, John Rostron, mae Gŵyl Sŵn wedi bod yn llwyfan i rai o wynebau mwyaf adnabyddus y Sîn Roc Gymraeg ar hyd y blynyddoedd. Ac mae’r wŷl ar fin dychwelyd nôl i fyrlymu’r brifddinas heddiw, fory a drennydd.