Mae trafferthion wedi bod yn y byd erioed ond dwi yn teimlo gyda thensiynau geo-politicaidd a rhyfeloedd chwerw a gwaedlyd yn nwyrain Ewrop, y dwyrain canol ac Affrica, rydym yn byw mewn cyfnod peryglus.
Daw’r problemau cyfredol ar sodlau’r pandemig. Cyfnod lle welson ni farwolaeth ar raddfa eang; hyd at Mai ’23 roedd bron 227,000 o farwolaethau yn y Deyrnas Unedig gyda Cofid-19 wedi rhestru fel un o’r achosion ar eu tystysgrif marw.
Mewn cyfnod pryderus fel hyn mae wastad y demtasiwn i ddatgysylltu a ffoi, ac un duedd dw i wedi sylweddoli arni ers y cyfnod clo yw twf y mudiad survivalist.
Mae’r mudiad yn cynnwys ‘Doomsday preppers’ sy’n paratoi ar gyfer byd anarchaidd heb gyfraith a threfn lle mae’r gyfundrefn ar chwâl a gwareiddiad wedi mynd i’r diawl. Mae’r preppers yn lleddfu eu pryderon am y gwymp ar y gorwel trwy gasglu nwyddau a meithrin sgiliau i fod yn hunangynhaliol.
Ni wn pa mor boblogaidd ydy’r mudiad yng Nghymru ond wnaeth golwg360 gyfweld â prepper deufis yn ôl a wnes i synnu pan gefais sgwrs gyda dyn yn y dafarn a ddatgelodd iddo fynychu cwrs survivalist yn yr Alban – jest rhag ofn ddaw’r gwaethaf.
Gyda’r wybodaeth yma yng nghefn fy meddwl, gwyliais gyfres ddiddorol ar Netflix o’r enw Outlast. Rhaglen sy’n gollwng pedwar grŵp o survivalists yng nghanol coedwig Alaska gydag ychydig iawn o offer. Y tîm sy’n gallu para’r hiraf yn yr anialwch sy’n ennill $1 miliwn.
Pa mor hir fedri di oroesi yn y goedwig heb gyfarpar modern? Ddim yn hir yn ôl yr hen welwyd ar Outlast. Roedd y mwyafrif o’r cystadleuwyr ar y sioe yn bobl alluog gydag ystod o sgiliau i oroesi yn y gwyllt, ond er hynny ni chafwyd fawr o lwyddiant.
Mi gymerodd un grŵp chwe diwrnod i ddysgu gynnau tân. O fewn wythnos roedd yr oerfel, y diffyg cwsg a diffyg maeth wedi chwalu iechyd pobl ffit ac abl. O ran y rheini oedd gyda’r sgiliau priodol ac a lwyddodd i adeiladu cartref clyd a thân cynnes, fe wnaethon nhw golli eu ffordd yn araf deg gan nad oeddent wedi llwyddo canfod a bwyta digon o faeth; erbyn y bedwaredd wythnos roedd pawb yn ei chael hi’n anodd o ran iechyd ac yn emosiynol.
Roedd cystadleuwyr yn cael eu hanafu tra’n torri coed; yn dal hypothermia a hyd yn oed trench foot. Roedd rhaid achub un cystadleuydd ar raff wedi i lif yr afon ei chario hi allan i’r môr!
Dyma raglen oedd yn arbrawf difyr, ac er wnes i ryfeddu at fenter a sgil rhai o’r cystadleuwyr, mae’n ffantasi i gredu y gallwn ni oroesi rhyw drychineb enfawr trwy ambell unigolyn brwdfrydig yn ein dysgu i fod yn fwy hunangynhaliol. Fel roedd Outlast yn dangos, ni fuasai’r mwyafrif ohonom ni yn para rhyw fis ar ben ein hunain bach yn yr elfennau.
Ni wn sut i ddatrys heriau cymhleth geo-wleidyddol, arfau niwclear a hinsawdd ein hoes – ond nid unigolyddiaeth yw’r ateb: mae gwledydd y byd angen dod at ei gilydd mewn ysbryd o frawdgarwch a darganfod datrysiadau synhwyrol a theg i’w problemau. Yn bersonol, dwi ddim am baratoi am Oes y Cerrig pan mae Oes y Deallusrwydd Artiffisial wedi dyfod.
Afraid dweud, os ddigwyddith y gwaethaf ac rydych yn disgwyl arnaf fi i gynnau’r tân heb gyfarpar modern yng nghoedwig Niwbwrch – mi fyddwch chi’n disgwyl yn hir!