Mae’r nos yn dywyllach na dwi wedi ei weld o’r blaen. Y math o dywyllwch sy’n drysu’ch synhwyrau, yn deffro hen reddfau o ddyddiau bleiddiaid ac eirth. Dwi’n hanner meddwl ’mod i’n mynd i gwympo i mewn i ryw ddim byd mawr wrth i mi gerdded dros y traeth a dilyn y lleill; fod trefnwyr y daith yma wedi cymryd ein harian dim ond er mwyn ein harwain ni i wacter mawr nad oes iddo lawr, na nefoedd, nac unrhyw beth i ddal gafael arno.