Does gen i fawr o amynedd. Dim efo unrhyw beth, a dweud y gwir, yn y misoedd yma pan fo’r flwyddyn yn cyrraedd ei ganol oed, a ninnau’n gorfod cydnabod fod y gorau drosodd. I mi, dyma’r cyfnod pan fo disgyrchiant yn mynd i deimlo ychydig yn drymach, a blinder fy nghanol oed fy hun yn mynnu mwy o sylw.

Yn sicr, dydy o ddim yn amser da i fawrygu arwyr o’r hen ddyddiau.