Cafwyd pennod arbennig o raglen gelfyddydol Ffion Dafis ar Radio Cymru yn ddiweddar, yn canolbwyntio ar fywyd a gyrfa’r canwr-gyfansoddwr o Ffestiniog, Gai Toms. Cyfweliad hir ar ddechrau’r rhaglen ac awr o gerddoriaeth berthnasol i gloi. Cafwyd un debyg gydag Endaf Emlyn pan yr oedd o’n dathlu’i ben-blwydd yn 80. Gwobr yn hytrach na phen-blwydd oedd y bachyn y tro hwn, gan i Gai Toms dderbyn gwobr Cyfraniad Arbennig Gwobrau’r Selar eleni.