Wythnos yma wnes i ddarllen hunangofiant diddymwr blaenllaw a chyn-gaethwas Americanaidd, Frederick Douglass [1818 – 1895].
Wedi’i gyhoeddi yn 1845, roedd hunangofiant y llais dilys ac awdurdodaidd hwn yn arf pwerus yn nwylo’r gwrth-gaethiwyr a ymgyrchodd i ddiddymu caethwasiaeth. Yn glasur yng nghanon llenyddiaeth Americanaidd, mae’r hunangofiant yn ddarllen anodd ar brydiau oherwydd cynnwys y testun.