Wrth i Keir Starmer addo haneru’r achosion o drais gyda chyllyll, mae Rhys Owen yn rhannu profiad personol o ddioddef lladrad treisgar yn Llundain…
Fel Gohebydd Gwleidyddol, anaml iawn fydda i yn cynnwys profiad personol yn un o fy straeon.
Ond ar yr achlysur yma, rwy’n teimlo ei bod yn addas i wneud yn union hynny.
Tros yr Haf, tra ar wyliau efo’r teulu yn Llundain, mi wnes i ddod wyneb yn wyneb gyda throseddwr wnaeth fy mygwth gyda chyllell.