Mae dau enw newydd wrth y llyw, “ac mae’r gwerthiant yn mynd yn ffab”…

“Mae’r ochr sentimental yn golygu mwy i fi na’r ochr fusnes.” Dyna ddywed yr actor Lisa Marged,  wrth iddi edrych ymlaen at bantomeim blynyddol newydd cwmni Mega, gyda hi a’i gŵr Gwydion Rhys wrth y llyw am y tro cyntaf.

Maen nhw wedi camu i’r adwy yn dilyn marwolaeth yr actor Dafydd Hywel, sefydlydd y cwmni, ym mis Mawrth 2023.