Mae wedi bod yn wythnos dda iawn i Craig Bellamy. Yng Nghaerdydd welsom ni gêm ddi-sgôr yn erbyn Twrci. Ond nid y sgôr oedd hanes y noson honno. Mewn amgylchiadau perffaith am bêl-droed ar gae fel bwrdd snwcer, fe gawsom ni gipolwg ar y tactegau mae Bellamy wedi dysgu yn ei amser gyda Vincent Kompany yn Anderlecht a Burnley.