Wedi’r perfformiad calonogol yn erbyn Twrci ar y nos Wener mewn gêm ddi-sgôr ddifyr, fe flasodd Craig Bellamy ei fuddugoliaeth gynta’ yn sedd yr hyfforddwr nos Lun ym Montenegro.

Mewn gwirionedd, wnaeth rheolwr newydd Cymru ddim eistedd lawr wrth i Gymru drechu’r gwrthwynebwyr 2-1 gyda dwy gôl gynnar gan Kieffer Moore a Harry Wilson.

Roedd Bellamy yn bresenoldeb cyson ar ymyl y cae wrth iddo annog ei dîm dros y linell derfyn, a blasu buddugoliaeth felys dan amodau hynod heriol.