Mae Keir Starmer wedi cychwyn ei dymor llawn cyntaf yn Senedd San Steffan fel Prif Weinidog y Deyrnas Unedig – dim ond pythefnos wnaeth o cyn gwyliau’r Haf, ar ôl cael ei ethol ym mis Gorffennaf.

Ac mae e eisoes dan y lach am ei benderfyniadau ynglŷn â thaliadau tanwydd y gaeaf.

Yn ôl Syr Keir Starmer, a’i Ganghellor Rachel Reeves, mae torri yn ôl ar daliadau tanwydd gaeaf i bensiynwyr yn briodol oherwydd cyflwr gwael economi’r wlad.