Os cofiwch chi, dros ugain mlynedd yn ôl yn anterth cyfnod Tony Blair, fe gawson ni haid o gywirdeb gwleidyddol, er gwell neu waeth. Un o’r pethau na pharodd o’r cyfnod hwnnw oedd y duedd i gyfeirio at bobl ddu neu o amryw drasau Asiaidd fel “pobl o liw”. Roedd y rhesymau drosto’n ddigon teg mewn ffordd, ac eto mae’r term hwnnw wedi hen ddiflannu o arfer. Hyd yn oed ar y pryd, roedd yna deimlad ymhlith pobl ddu neu o dras arall o “be ddiawl mae’r bobl wyn wrthi’n ei wneud rŵan?”. Aeth pethau’n
gan
Jason Morgan