Portread o Chenai Chikanza

Bydd actores ifanc 16 oed o Ddyffryn Ogwen yn ymddangos ar y llwyfan am y tro cyntaf fis yma.

OLION, drama dair rhan gan y Frân Wen, fydd y cynhyrchiad byw proffesiynol cyntaf i Chenai Chikanza actio ynddo.

Cynhyrchiad unigryw ar ffurf sioe theatr lwyfan, theatr awyr agored ar strydoedd Bangor a ffilm fer ddigidol wedi’i ysbrydoli gan chwedl Arianrhod – mam Lleu Llaw Gyffes o bedwaredd gainc y Mabinogi – yw OLION.

Yn actio cymeriad ‘Beca’ ar gyfres Rownd a Rownd ers y llynedd, mae Chenai newydd ddechrau yn y Chweched Dosbarth yn Ysgol Dyffryn Ogwen. Drama, Troseddeg, Cymraeg a Saesneg yw ei phynciau, a’i gobaith yn y pendraw yw dilyn gyrfa ym myd actio.

“Dw i bob tro wedi bod eisiau actio, ac wedyn pan oeddwn i yn yr ysgol gynradd roeddwn i’n arfer gwneud grŵp Blas efo’r gantores Mared [Williams] a [chlwb drama] Crawia efo’r actores Angharad Llwyd, a dw i’n meddwl bod cael gwneud pethau ar y llwyfan efo nhw wedi gwneud i fi fod eisiau gwneud o fwy,” meddai Chenai, gafodd ganlyniadau TGAU da yn ddiweddar.

“Dw i wastad wedi bod yn blentyn hyderus, felly dw i’n meddwl bod o wedi dod o hwnna.

“Dw i’n mwynhau’n ofnadwy ar Rownd a Rownd, mae o’n cŵl cael gweld sut mae pethau ar sgrin yn cael eu creu a fy mod i’n cael bod yn rhan ohono fo. Mae o’n brofiad diddorol, mae o’n brofiad da.

“Dw i’n gallu cydbwyso’r actio a’r gwaith ysgol yn eithaf da, dw i’n trio dal fyny efo bob dim dw i’n fethu. Mae Rownd a Rownd yn dda, pan mae gennym ni egwylion hir yn ystod y dydd, os ti erioed angen congl i wneud gwaith maen nhw’n awyddus i chdi ddod â gwaith efo chdi fel bod chdi ddim yn methu gormod.”

Cymeriad o’r enw ‘Elan’ fydd Chenai yn ei actio yn OLION, ac er ei bod hi wedi bod ar lwyfan gyda grwpiau drama ac yn yr ysgol, mae cael gwneud hynny’n broffesiynol yn brofiad newydd.

“Mae Elan, fyswn i’n ddweud, yn gymeriad pengaled ac mae hi’n benderfynol iawn ar ei ffordd hi o wneud pethau,” meddai Chenai.

“Dw i’n meddwl fy mod i’n fwy cyffrous na nerfus, dw i’n edrych ymlaen i gael gwneud o.

“Mae o’n cŵl cael gweld sut mae pethau’n gweithio, a dw i’n teimlo fy mod i wedi dysgu sgiliau gwahanol i ymarfer, a sut i gynhesu fyny a ballu.”

Ymysg aelodau eraill y cast, mae Rhian Blythe yn actio rhan ‘Arianrhod’, Sharon Morgan yw ‘Dôn’, mam Arianrhod, Owain Gwynn fydd ‘Gwydion’, Owen Alun yw ‘Madoc’, a Rhodri Trefor yw ‘Gilfaethwy’, brawd Arianrhod a Gwydion. Mae’r cast hefyd yn cynnwys Aisha-May Hunte a Mirain Fflur, a chaiff y tîm creadigol ei arwain gan Anthony Matsena, Marc Rees, Angharad Elen a Gethin Evans.

“Mae o’n fraint cael gweithio efo bobol fel [Sharon Morgan a gweddill y cast profiadol],” meddai Chenai. “Dydy lot o bobol oed fi ddim yn gallu dweud bod nhw wedi, felly mae o’n gyfle da iawn i ddweud fy mod i wedi gweithio efo’r bobol yma, fy mod i’n cael gweithio yn yr un lle â nhw a dw i’n cael dysgu ganddyn nhw hefyd tra ein bod ni’n ymarfer.”

Wrth ymarfer, mae’r cast wedi bod yn mynd o dan groen y cymeriadau, ac mae hynny’n un o’r pethau mae Chenai wedi’i fwynhau’n bennaf wrth baratoi.

“Rydyn ni wedi bod yn mynd mewn dipyn i feddylfryd Elan a’r rheswm pam mae hi’n gwneud be mae hi’n ei wneud a dweud be mae hi’n ei ddweud, er mwyn cael teimlad tu ôl iddyn nhw a phwrpas i be dw i’n ddweud,” meddai.

“Mae actio bron iawn fel mynd i fyd arall, ac mae o’n hwyl cael smalio bod yn rhywun arall. Ti’n newid meddylfryd chdi i fod yn rhywun arall, er bo chdi’n chdi dy hun.

“Ti’n cael dod i adnabod y cymeriad er eu bod nhw ddim yn berson gwir, dim ond drwydda chdi.”

Pe bai’n cael actio unrhyw rôl yn y byd, byddai’n dewis cymeriad fel Black Panther neu Scarlet Witch o gomics Marvel, neu un o dywysogesau Disney ar y llaw arall. Rhai o’i dylanwadau ym myd actio yw Zendaya a Florence Pugh, dwy sydd wedi actio yn ffilmiau Marvel.

“Efo Zendaya dw i wedi licio stwff hi ers oeddwn i’n fach ac mae hi’n chwarae mewn cymaint o rôls gwahanol, ac mae hi i weld fel dynes neis,” chwardda Chenai.

“Yr un fath efo Florence Pugh, mae ei rôls hi mor wahanol ac mae hi’n actor hyblyg iawn. Mae hi i weld fel person, os fysa chdi’n sownd mewn stafell efo hi, fysa hi’n neis i fod efo!”

Rhwng actio ac astudio, mae Chenai yn mwynhau cerdded yng nhyffiniau Bethesda gyda’i ffrindiau, ynghyd â chanu a gwrando ar gerddoriaeth. Mae hi’n hoffi cerddoriaeth o sioeau cerdd, ac wedi mwynhau Six The Musical yn ddiweddar.

“Pan oeddwn i yn yr ysgol gynradd roeddwn i’n arfer gwneud lot o ganu a bod yn rhan o gorau, ond dydw i ddim ar y funud,” ychwanega.

“Dw i’n licio Lauryn Hill a SZA, dw i’n licio lot o bobol – mae’r playlist yn gymysgedd o lwyth o stwff gwahanol.”