Mae Alun Saunders yn Ddramodydd ac Actor sydd wedi gweithio yn y diwydiant theatr a theledu ers dros 20 mlynedd. Enillodd wobr Awdur Gorau yng Ngwobrau Theatr Cymru 2016 am ei ddrama ddwyieithog, A Good Clean Heart, sydd bellach ar restr testunau gosod Lefel A Drama CBAC. A dyma ei farn ar sefyllfa’r Fedal Ddrama eleni…

Mae’n amlwg – wedi i ni weld sefyllfa drist y Fedal Ddrama’r Eisteddfod Genedlaethol eleni – fod angen newidiadau i’r ffordd mae’r gystadleuaeth yn cael ei chynnal. I mi, y peth mwyaf trist yw’r modd mae’r Eisteddfod wedi celu gwybodaeth a ffeithiau ynglŷn â sut gyrhaeddwyd y penderfyniad i atal y wobr a’r seremoni. Mae hyn wedi arwain at dybiaeth (h.y. speculation), clecs a dadlau, sy’n ddiffrwyth heb y ffeithiau.

Pe bai gyda ni – fel mynychwyr, buddsoddwyr a chyfranwyr i’r Eisteddfod – y ffeithiau (di-enw neu beidio) yna gallem gynnal trafodaethau aeddfed ynglŷn â’r sefyllfa a sut allem osgoi atal gwobr sydd mor bwysig i fyd theatr iaith Gymraeg yn y dyfodol. Heb y ffeithiau gan gorff yr Eisteddfod, mae dadlau a chlecs yn peri gofid mawr am roi enw gwael i unigolion – yn sgwenwyr, yn feirniaid ac eraill – ond hefyd yn creu amheuaeth am enw da’r Eisteddfod ei hun.

Dylai’r Fedal Ddrama (fel Tlws y Cerddor) dderbyn yr un clod a pharch â Chadair, Coron a phrif wobrau eraill yr Eisteddfod – dwi ddim yn siŵr bo’ hynny’n wir ar hyn o bryd. Mae’n rhaid i ni gydnabod fod natur theatr a drama yn dra gwahanol i gyfansoddi cerdd neu farddoniaeth. Caiff cerddi gorffenedig eu cyhoeddi, eu darllen a’u rhannu. Mae sgript theatr yn anorffenedig nes i’r cynhyrchiad ohoni ddod i ben, sy’n broses eithriadol o hir. Caiff sgriptiau weithiau eu cyhoeddi cyn y broses ymarfer a’r ddrama’n newid cryn dipyn drwy’r broses cyn i’r cynhyrchiad i agor. Dyw’r sgriptiau ddaw i’r gystadleuaeth fyth yn mynd i fod yn ‘orffenedig’ oherwydd natur y broses theatrig – ymarfer, datblygu a thrafod. Mae angen proses wahanol ar gyfer y Fedal Ddrama, ac – i mi – mae’r cyd-destun o brofiad y Dramodydd yn bwysig gyda llais yr awdur yn elfen hollbwysig o waith theatr.

Nes i ni gael ffeithiau clir am yr hyn aeth o’i le ar broses eleni gan gorff yr Eisteddfod Genedlaethol, mae’n amhosib i ni gynnal sgyrsiau aeddfed ac angenrheidiol i ddarganfod modd/au mwy cyfoes a pherthnasol i gynnal cystadleuaeth y Fedal Ddrama.