Dim amheuaeth. Un o’r eisteddfodau gorau a chriw bach staff y Brifwyl a’r gwirfoddolwyr wedi gwneud gwaith rhyfeddol i greu’r sbloet o liw a gweithgarwch ym Mhontypridd.

Yr un mefl mawr oedd helynt Tlws y Ddrama a’r ffordd yr aeth awdurdodau’r Eisteddfod ati i’w drin, gan greu dryswch ac ansicrwydd a tholcio ffydd cystadleuwyr.