Pan holodd fy mrawd sut beth oedd y Steddfod ‘leni, rhaid i mi gyfaddef i mi droi at air Saesneg i’w disgrifio.
Golygydd Golwg yn defnyddio’r iaith fain wrth roi ein prifwyl genedlaethol yn y glorian?
Gwarthus iawn iawn… a do, mae hi wedi mynd!
Ond cool ydy’r gair perffaith i ddisgrifio Steddfod Ponti.
Yn gyntaf, y fynedfa i gyrraedd y Maes ar Barc Ynysangharad – roedd gofyn i chi groesi pont.
Roedd hyn ynddo’i hun yn teimlo fel eich bod yn camu i fyd arall, cyfrin, a bod holl gyfrinachau’r byd hwnnw yn cael eu datgelu fesul un wrth i chi grwydro’r Maes.
Pont oedd y fynedfa i Steddfod Pontypridd. Cool!
Mae cael Maes Steddfod mewn cae yn ganol nunlle yn medru bod yn boring a chlawstroffobig, ac hawdd myllio mewn lle felly… cael yr hen deimlad annifyr hwnnw o fod fel bochdew ar olwyn yn cerdded heibio rhesi ar ben rhesi o sdondinau a llefydd bwyd.
Ond ym Mharc Ynysangharad roedd digonedd o le i grwydro a sawl llecyn i ymbloncio a chael hoe.
Ac yn goron ar y cyfan roedd y pwll nofio heb do. Mae’r lido art deco yno ers bron i ganrif (1927) a’r profiad o fod yno yn teimlo fel camu yn ôl mewn amser. Yr ystafelloedd newid yn hen ffasiwn a’r staff yn glên.
Wedi napan fach ar un o’r gwlâu torheulo yn y lido, ymlaen i gaffi Maes B a mwynhau perfformiad acwstig hyfryd o slac gan Los Blancos, y band o’r Gorllewin sydd fel arfer yn troi’r amps fyny i un ar ddeg.
Aeth 30 mlynedd o ddŵr dan y bont ers i mi fynd i fy Steddfod gyntaf gyda fy mhabell yng Nglyn Nedd yn 1994, a gallaf ddatgan yn bowld mai Parc Ynysangharad yw’r lleoliad gorau ohonyn nhw i gyd.
(Ar dudalen 6 mae Prif Weithredwr y Steddfod yn dweud mai dyma oedd “un o’r meysydd mwyaf godidog yn hanes yr Eisteddfod”).
Bardd bach sionc a ffynci
Ond wedi dweud hynny, mae mwy iddi na’r Maes, a dim ond ynfytyn sy’n colli’r cyfle i grwydro’r fro.
Ei miglo hi draw i’r clwb rygbi oedd trefn y nos Wener, a rhyfeddu at le mor old skool cool ydy Heol Sardis, gyda dwy eisteddle hyfryd o hen ffash a hanes yn diferu oddi ar waliau’r House of Pain chwedlonol.
O gofio’r arlwy anhygoel ac amrywiol sydd ar y Maes, mae’n glod i Gymdeithas yr Iaith eu bod yn dal i allu denu torf draw i’w gigs.
Ac mae’r nosweithiau yma yn aml yn gyfle i brofi a darganfod dawn artistiaid sy’n arw ac amharchus a ‘rhy gormod’ i Lwyfan y Maes.
Roeddwn yn nabod yr enw Rhys Trimble, ond heb weld y dyn ei hun wrthi, nes i mi brofi’r bardd bach sionc wrthi yn cyd-lefaru i sain ffrwydrol y band Crinc yn y clwb.
Yn siglo’i ffon-bolyn tra’n udo am chwyldro, mewn siwt las golau drawiadol ag arni gymylau, roedd ysbryd shamanaidd Rhys yn dwyn i’r cof, feiddia i ddweud, Iolo Morganwg.
Dyma sy’n wych am Steddfod, gweld rhywbeth newydd sy’n gwefreiddio a rhyfeddu.
Yn hwyrach y noson honno cafwyd sioe a hanner gan Rogue Jones, a da oedd eu gweld yn diolch ar ein rhan ni oll, i Gymdeithas yr Iaith am barhau i roi’r nosweithiau yma ymlaen.
Ac erbyn y nos Sadwrn roeddwn i adre’n sleboga ar y soffa, ac yn barod i gael fy Edeneiddio.
A wnaeth y genod o Glwyd ddim ein gadael ni lawr. Waw!
(Os fethoch chi berfformiad Eden ar Lwyfan y Maes, mae i’w weld ar S4C Clic a’r BBC iplayer.)