Roedd y nifer a ddaeth i’r Eisteddfod Rhondda Cynon Taf yn uwch “nag sydd wedi bod ers cyn Covid”, yn ôl y trefnwyr.
Fe gafodd yr Eisteddfod ei chynnal ym Mharc Ynysangharad yng nghanol tref Pontypridd yr wythnos diwethaf, ac yn ôl Prif Weithredwr yr ŵyl yn arbrawf llwyddiannus. Roedd hi’n dilyn arbrawf Eisteddfod ddinesig ‘ddi-ffens’ Caerdydd 2018 a Phrifwyl tref fach Tregaron yn 2023.