Doedd yr Eisteddfod ddim eisiau datgelu rhagor fore Llun am stori fawr yr Eisteddfod, er gwaetha’r galw mawr am esboniad llawn…

“Y datganiad fydd yn dal ar ochr y Ddrama. Fe fyddwn ni’n adolygu ym mis Hydref.” Dyna oedd ymateb Prif Weithredwr yr Eisteddfod, Betsan Moses, fore Llun i stori fawr y Fedal Ddrama.