Dw i’n cofio pan o’n i’n blentyn, yr wythnos honno rhwng y Sioe a’r Steddfod oedd wythnos fwyaf diflas gwyliau’r haf. Gyda phrifwyl y ffermwyr drosodd am flwyddyn arall, roedd wythnos hir o aros am ail gyffro’r gwyliau.

Efallai fy mod i fymryn yn hŷn ond fe fydda i dal fel plentyn bach, ar bigau’r drain yn aros i’r Brifwyl ddechrau. Bu’r Gemau Olympaidd yn help yn hynny o beth eleni, y tro cyntaf i’r rheiny ddechrau wythnos cyn y Steddfod ers 2012!