Mae’r dyn sy’n codi ei law mewn cyfarchiad Natsïaidd yn dad i ferch fach chwe blwydd oed. Mae o’n darllen stori iddi bron bob nos cyn iddi fynd i gysgu, yn ei chadw’n saff yn ei gôl wrth adrodd hanes Peppa Pig neu’r Gruffalo. Mae’n mwytho’i gwallt wrth iddi roi ei phen bach cysglyd ar y gobennydd, yn plannu sws ar ei phen, yn caru’r arogl shampŵ banana sydd arni. Mae’n dweud wrthi bob dydd ei bod yn ei charu.