Mae Undeb Rygbi Cymru yn ceisio codi arian drwy ddefnyddio’r stadiwm cenedlaethol mewn ffyrdd dyfeisgar. Seimon Williams sy’n trafod tlodi’r rhanbarthau a bwrw golwg ar y posibilrwydd o sefydlu cynghrair Eingl-Gymreig…

“Fe wnaeth Undeb Rygbi Cymru, gan ddefnyddio taliadau CVC, fuddsoddi swm – ein dealltwriaeth yw bod y swm oddeutu £5m – yn ei atyniad newydd, Scale”, nododd Siôn Barry yn Wales Online diwedd mis Gorffennaf.