Bydd nifer ohonoch, wedi’r etholiad cyffredinol, yn poeni am lwyddiant Reform UK a goblygiadau hynny. Dw i’n rhannu’r pryder i raddau. Dw i’n ddemocrat pybyr sy’n meddwl bod angen i unrhyw arwydd o ffasgaeth, boed hynny’n ffasgaeth lawn neu’n neo-ffasgaeth, gael ei dinistrio’n llwyr. Ac mae’n anodd gen i ddisgrifio plaid amlwg hiliol, sydd â phroblem â merched ac sy’n gwadu’r argyfwng hinsawdd, fel unrhyw beth arall – heb sôn am blaid dan arweiniad cefnogwr Trump.