Gair gan Bethan Lloyd
Mae’r Golygydd wedi trosglwyddo’r awenau i fi yr wythnos hon tra ei fod o’n cael gwyliau haeddiannol iawn.
Mae gwyliau’n golygu rhywbeth gwahanol i bawb dydyn? I fi, ymlacio’n llwyr, gwneud cyn lleied â phosib, a dianc rhag bywyd go iawn ydy’r nod – yn ddelfrydol rhywle sydd dafliad carreg o’r traeth. Efallai mai wythnos yn y garafán yn yr Eisteddfod ydy uchafbwynt y flwyddyn i chi.
Nefoedd i rai, hunlla’ i eraill…
Dw i wastad yn rhyfeddu pan dw i’n gofyn i rywun lle maen nhw’n mynd ar eu gwyliau a chael rhestr faith o ddigwyddiadau a gweithgareddau sydd wedi eu trefnu o flaen llaw a hynny ar ôl treulio 13 awr ar awyren a phum awr ar y lôn i gyrraedd eu gwesty, cyn symud mlaen bob deuddydd i ryw leoliad newydd. Mi fydda’i yn trio ngorau i ddweud, yn frwdfrydig, “Mwynha’r gwyliau!” ond yn meddwl i fi’n hun: “Wyt ti’n BONCYRS?”
Yn ddiweddar, roedd ffrind yn son ei bod am fynd i ioga retreat yn Sbaen am wythnos – oedd am gostio ffortiwn – a chlywed ei bod yn gorfod codi am 6 bob bore, gwneud dwy awr o ioga, cerdded am chwe milltir ac yna cael ei “gwobrwyo” gyda sudd llysiau a salad figan i swper. Mmm…
Ond pawb at y peth y bo. Mi wnes i dreulio wythnos ym mis Mehefin eleni yn Efrog Newydd gyda ffrind a fy nwy ferch, sy’ yn eu harddegau. Fyswn i ddim fel arfer yn dewis mynd ar wyliau i un o ddinasoedd prysura’r byd ynghanol haf crasboeth, ond pan gesh i gynnig tocyn dosbarth cyntaf ar Virgin a gwestai am ddim, do’n i ddim mewn sefyllfa i wrthod…
Ac mi roedd yn wyliau hollol anhygoel – rhai o’r uchafbwyntiau oedd mynd i arddangosfa Sleeping Beauties: Reawakening Fashion yn y Met, cael swper yn y Boathouse yn Central Park ar noson hyfryd, gweld yr actorion Jude Law, Jason Bateman a Laura Linney yn ffilmio’r gyfres newydd Black Rabbit yn y Meatpacking District, rhyfeddu at bensaernïaeth y Guggenheim yn arddangosfa Jenny Holzer, a cherdded yr High Line.
Ond seren y sioe i fi oedd y Tenement Museum, sydd fel cornel fach o Sain Ffagan yn y Lower East Side – adeilad hanesyddol sydd wedi’i drawsnewid i ail-greu cartrefi’r miloedd o bobl a ymfudodd i Efrog Newydd rhwng 1863 a 2011. Cawson ni ein tywys gan wirfoddolwr o gwmpas cartref y teulu Moore (fy nghyfenw i cyn priodi) a chlywed hanes y cwpl ifanc oedd wedi dianc rhag y Newyn Mawr yn Iwerddon tua 1846 i ddechrau bywyd newydd yn America. A doedd hi ddim yn fywyd hawdd chwaith. Mae’n stori ddirdynnol sydd wedi aros efo fi.
Efallai mai “profiad” fyddai’r term orau i ddisgrifio’r trip i Efrog Newydd yn hytrach na “gwyliau” – achos roedd ‘na lot o gerdded yn y gwres, a bod mewn llefydd cyfyng efo lot gormod o bobl. Ac, fel sy’n digwydd bob tro mae rhywun yn dechrau ymlacio, mi wnes i ddal Covid ar y diwrnod ola’ hefyd – ond ro’n i’n lwcus mod i wedi gallu cysgu bron yr holl ffordd ’nôl i Heathrow, blaw am ambell: “Hot towel, madam?” neu “Glass of Champagne?”
Cwyno? Na, dim o bell ffordd. Mae sawl profiad yn dal i godi gwên ac yn gwneud i fi hiraethu am gynhesrwydd a chyfeillgarwch y bobl wnaethon ni gwrdd yno.
Wedi dweud hynny, dw i’n mawr obeithio y ca’i gyfle cyn diwedd yr haf i gael gwyliau eto – gwyliau go iawn y tro yma, mewn caban wrth ymyl traeth yng Ngheredigion lle does dim teledu, radio na ffonau – a cherdded, nofio, gwledda ar y cynnyrch lleol bendigedig, a darllen llond siwtces o lyfrau da. Dyna le ydan ni wedi bod yn mynd ers blynyddoedd bellach, a bob tro ‘dan ni’n dod ’nôl, rydan ni wastad yn teimlo fel ein bod ni wedi cael – gwyliau…