Bu Golwg yn siarad â dau wleidydd, Alex Davies-Jones a Heledd Fychan, i glywed beth sydd gan Bontypridd i’w chynnig i Steddfodwyr eleni…

Fe fydd Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf eleni yn wahanol mewn sawl ffordd.

Wedi’i lleoli ym Mharc Ynysangharad, bydd cyfle i Eisteddfodwyr nofio yn y Lido – a gafodd ei adeiladu yn 1927 – y tro cyntaf i bwll nofio fod ar y Maes – a bydd amrywiaeth o weithgareddau eraill ar gael yn y dref.