Y tu ôl i fygydau, mae rhai o dalentau ifanc a mwyaf cyffrous Cymru’n creu tonau yn y sîn roc Gymraeg…

Llai na dwy flynedd ers rhyddhau eu sengl gyntaf, mae’r prosiect hip-hop dirgel o Gaerdydd yn torri ffiniau gyda’u cerddoriaeth. O ‘sugar mammas’ Pontcanna i Sgwrs Dan y Lloer efo Elin Fflur, mae agwedd chwareus a digywilydd GWCCI yn talu ar ei ganfed.