Ar 20 Gorffennaf fe wnes i a Molly, fy nghyd-aelod o’r band The Mermerings, berfformio yng ngŵyl Balchder Gogledd Cymru yn Llangefni, Ynys Môn.

Dyma oedd gŵyl Balchder cyntaf y dref, ac roedd yn fraint fawr i ni chwarae. Ar y nos Wener teithiais o Lundain, Molly o Benarth, lan i Fachynlleth, a’r bore wedyn, wnes i gymryd mantais o’r ffaith fod fy mrawd newydd basio ei brawf gyrru a gofyn iddo fynd a ni weddill y ffordd lan i Langefni.