Mae Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith yn gobeithio bydd chwistrelliad Cymraeg Eisteddfod y Rhondda yn un ddofn…
Fe fydd Eisteddfod Pontypridd “fel Eisteddfod arferol ond gyda pharc plant proffesiynol a phwll nofio.” Dyna neges Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith, Helen Prosser, i ddarllenwyr Golwg ddechrau’r wythnos yma.
“Ac mae’r blodau jest yn rhyfeddol,” meddai. “I bawb sydd yn dod, fe fydd yna wledd i’r llygaid. Mae yna oleuadau bach o gwmpas y lle i gyd, felly gyda’r nos fe fydd yn edrych yn bert ofnadwy.”
Bydd y Pwyllgor Gwaith yn cyhoeddi beth yw cyfanswm yr arian a godwyd yn y Gronfa Leol ar ddiwrnod cyntaf yr Eisteddfod ddydd Sadwrn (3 Awst). Roedd disgwyl i ardal y Rhondda godi £400,000, a hynny mewn ardal lle mae 12.4% o’r boblogaeth yn siarad Cymraeg, felly bu’n dalcen caled. Fe gododd Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd 2023 dros hanner miliwn o bunnoedd.
“R’yn ni wrth ein boddau â’r swm sydd wedi ei godi ac mae cymaint o fwrlwm wedi bod,” meddai Helen Prosser. “Yn ddiddorol mae wedi dod yn bennaf o weithgareddau cymunedau. Mae yna gyfraniadau gan unigolion hefyd, ond beth ’dan ni ddim wedi ei gael yw cyfraniadau sylweddol gan gynghorau cymuned. Mae e wir wedi dod gan y gymuned… Ro’n i gyda Chadeirydd Cwm Cynon y bore ’ma – maen nhw yng Nghwm Cynon yn unig wedi cynnal 80 o ddigwyddiadau!”
Mae’r digwyddiadau hynny wedi cefnogi economi Rhondda Cynon Taf yn gyfan, “sydd yn ofnadwy o bwysig,” yn ôl Helen Prosser, “ond hefyd wedi mynd â’r Gymraeg, wrth gwrs, i’r cymunedau hyn.
“Fe gynhalion ni yma yn Nhonyrefail y gig uniaith Gymraeg cynta’ erioed, gyda Paid Gofyn a Catsgam, a’r clwb yn llawn. Dw i’n benderfynol bod y bwrlwm am barhau. Nid ar yr un raddfa – mi fyddai hynny’n amhosib. Ond mae pawb yn dweud ‘dydan ni ddim yn gallu stopio.’”
Y Rheol Iaith am fod “yr un mor gryf ag erioed” ym Mhontypridd
Bu Helen Prosser yn crwydro Parc Ynysangharad fore Llun yng nghwmni rhai o aelodau ei dosbarth Cymraeg y mae hi’n cwrdd â nhw ar foreau Llun, i bori drwy’r Rhaglen a thrafod y Maes.
“Mae’n syndod cyn lleied mae pobol yn ei wybod am yr Eisteddfod,” meddai. “Beth dw i’n trio’i gyfleu i bawb ar hyn o bryd yw ‘trefnwch eich diwrnod’. Mae cymaint yn digwydd, ond os nad y’ch chi wedi trefnu mae’n hawdd colli pethau. Dyw pobol ddim yn sylweddoli… Mae’n rhaid i ni gael y neges mas yna, bod yna wir rywbeth i bawb yn y Steddfod.”
Bu’n tynnu sylw pobol at y cyfleusterau cyfieithu ar y pryd a fydd ar gael, ac mae hi’n canmol gwefan yr Eisteddfod am nodi’r holl sesiynau sy’n cael eu cyfieithu. Tybed, fodd bynnag, a welwn ni lacio ar y Rheol Iaith yr wythnos yma – gyda’r Brifwyl yn cael ei chynnal mewn ardal ôl-ddiwydiannol fel y Cymoedd?
“Bydd y Rheol Iaith ar waith yr un mor gryf ag erioed,” meddai Helen Prosser yn bendant. “Nid yw yn golygu na fydd croeso i bawb. Yr hyn r’yn ni eisiau yw dangos pa mor fywiog a modern yw’r iaith Gymraeg. Wrth gwrs, r’yn ni’n gobeithio y bydd pobol ddi-Gymraeg yn dod i weld… y neges yw ‘os dach chi’n gallu dweud ‘bore da’, dywedwch ‘bore da’ – rhowch gynnig ar yr hyn o Gymraeg sydd gyda chi.’
“Ond o ran yr Eisteddfod yn ganolog, fe fydd y Rheol Iaith ar waith, yr un mor gryf ag yr oedd e’r llynedd ym Mhen Llŷn.”
Mwy o ddigwyddiadau am ddim gyda’r hwyr
Un o’r ceisiadau yn dilyn yr Eisteddfod ym Moduan y llynedd, yn ôl Helen Prosser, oedd am ragor o ddigwyddiadau am ddim ar y Maes gyda’r hwyr.
“Mae hynna wedi ei wireddu,” meddai. “Mae mwy o ddigwyddiadau am ddim gyda’r nos nag erioed o’r blaen. Bydd eisie tocyn i Nia Ben Aur nos Sadwrn a nos Lun – a thocyn i’r Gymanfa nos Sul, ond heblaw am hynny bydd popeth yn agored. Mae popeth wedi cael ei newid, fel bod llawer iawn o gystadlu gyda’r nosau, a chyngherddau… mae gyda ni 14 o gorau newydd yn dod i’r Eisteddfod. Bydd yr holl beth yn wledd, a phopeth am ddim gyda thocyn Maes.
“Mae pethau’n digwydd yn y nos yn y Babell Lên, yn Encore, y Tŷ Gwerin – nid yn unig ar lwyfan y Maes a’r Pafiliwn. Mae’n bwysig i bobol edrych yn y Rhaglen i weld beth sy’n apelio atyn nhw.”
Peidiwch â mentro i’r dref i barcio
Mae rhywfaint o gwynion wedi bod ar y gwefannau cymdeithasol o ran y modd y bydd ymweliad yr Eisteddfod yn cynyddu traffig yn yr ardal ac oherwydd cau rhai o strydoedd y dref.
Fe fydd Taff Street ynghau i gerbydau rhwng 3 a 10 Awst ac mae’r Cyngor Lleol wedi annog trigolion lleol i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, neu feicio a cherdded yn ystod wythnos yr Eisteddfod. Mae Helen Prosser yn erfyn felly i Eisteddfodwyr i beidio â mentro i’r dref gyda’u ceir.
“Y neges bwysig iawn, fel bod cyn lleied o ymyrraeth a phosib ar bobol leol, yw bod pobol yn dilyn yr arwyddion a ddim yn trio dod mewn i’r dref i barcio,” meddai. “Gobeithio y bydd hi’n Eisteddfod werdd, a bod cymaint â phosib yn defnyddio’r bysiau a’r trêns, sydd yn rhagorol. Mae Trafnidiaeth Cymru wedi cyhoeddi bydd gwasanaethau hwyrach ac y bydd trenau a bysus ar ôl y digwyddiadau olaf ar y Maes.”
Os oes rhaid dod â char, mae hi’n erfyn ar bobol i fynd i’r meysydd parcio swyddogol – ym maes parcio’r Ddraenen Wen ym Mhontypridd, ac yn y maes parcio yn Abercynon, i’r rheiny sy’n dod o’r gogledd – lle bydd bysus gwennol i’r Maes.
“Mae’r Cyngor wedi comisiynu dau gwmni lleol profiadol iawn, ac fe fyddwn ni’n ffyddiog iawn y bydd e’n gweithio os bydd pobol yn dilyn arwyddion,” meddai. “Yr unig bobol sy’n gorfod dod mewn yw pobol â bathodyn glas.”
Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf ar Barc Ynysangharad, Pontypridd o 3 i 10 Awst.