Efallai eich bod wedi sylweddoli bod yr Ewros wedi dechrau – a bod timoedd megis Lloegr yn cystadlu am gwpan.

Neu efallai eich bod chi’n methu deall y rheiny sy’n dal i ymddiddori yn y gystadleuaeth, er fod Cymru fach allan ohoni.

Efallai nad oes gennych unrhyw ddiddordeb o gwbl yn y bêl gron – a bod yn well gennych wylio rhaglenni megis The Great British Sewing Bee.