Annwyl Wynford,

Dw i ddim yn gwybod pwy na beth ydw i, a dw i’n llawn amheuon ac ofnau am y dyfodol. Ond mae ystyfnigrwydd yn fy rhwystro fi rhag deud wrth neb sut dw i’n teimlo. Mae gen i grys-T sy’n deud y cyfan – ‘I trust no one!’ Dw i’n gwenu drwy bopeth, felly does neb yn gweld y tristwch tu fewn – fiw dangos hwnnw. Dw i’n teimlo’n unig – mae’n annioddefol.