Ydi o drosodd eto? Rydach chi’n fy adnabod i’n ddigon da bellach i wybod nad sôn am yr Ewros ydw i. Naci, yr Etholiad Cyffredinol sydd gen i mewn golwg. Fel dw i’n mynd yn hŷn, dwi’n dadrithio fwy a mwy efo gwleidyddiaeth, ond ar yr un pryd mae’r sylw ar y cyfryngau yn tyfu ac yn tyfu, felly dw i’n methu dianc rhag y diawl.