Un o’r prif newidiadau yn y ffordd mae rhaglenni teledu yn edrych dros y deg mlynedd diwethaf yw’r defnydd o siots o’r awyr. Mae defnydd o dronau wedi dod yn gyffredin iawn ac erbyn hyn, mae gweithwyr camerâu drôn yn bobl gwerth eu halen yn y diwydiant teledu. Cymerwch y gyfres ddiweddaraf o Cynefin ar S4C – gwych fel arfer ac yn llawn eitemau difyr gan y cyflwynwyr ar y ddaear. Un o nodweddion arall y gyfres yw’r lluniau hyfryd o’r awyr.