Wel, dyma fi nôl yng Nghymru fach – ac mae rhyw dwpsyn wedi penderfynu ein bod yn gorfod dioddef Etholiad Cyffredinol ym mis Gorffennaf. Mae’n bwysig iawn, felly, osgoi gwylio’r teledu am y chwe wythnos nesaf. Fel arall mae ’na beryg y byddwn yn gorfod gwylio Keir Starmer yn ein hatgoffa ein bod angen ‘Newid’, tra bod Rishi Sunak yn ein hatgoffa bod ei ‘Gynllun yn Gweithio’.