Ydych chi o blaid anifeiliaid anwes?

Mae fy mhlant yn pwyso (yn drwm!) arnaf i ddod o hyd i anifail anwes newydd wedi i’n cwningen, Eira, ein gadael ni cyn ei hamser.

Yn tyfu fyny es i drwy gyfres o anifeiliaid anwes gwahanol. Roedd yna fwji melyn, Charlie, a’r gwningen, Spike, a phan o’n i’n tua deg oed cawsom gi Jac Russell o’r enw Milly a wnaeth fyw tan oedd hi’n 17 oed.