Dydw i ddim am ymddiheuro am ysgrifennu am fy nghlwb lleol eto’r wythnos yma. Mae hanes diweddar Glwb Pêl-droed Y Felinheli wedi denu sylw’r gymuned bêl-droed trwy Gymru gyfan. Ar ôl colli naw gêm a heb ennill ers y Nadolig, mae’r clwb wedi ennill saith allan o’i deg gêm olaf i sicrhau ei le yn y drydedd adran. Felly, beth sydd yn gyfrifol am y trawsnewidiad?