Diddorol oedd darllen erthygl Malachy Edwards yn Golwg (23/05/24) am yrfa lewyrchus Bleddyn Williams fel chwaraewr rygbi yn ystod y 1940au a’r 1950au cynnar.
Er nad oes gen i gof o’i wylio’n chwarae, dysgais lawer am ei athrylith ar hyd blynyddoedd fy ieuenctid. Yn nes ymlaen, bûm yn ffodus i gyfarfod Bleddyn Williams nifer o weithiau tra roeddwn yn byw yng Nghaerdydd yn y 1960au hwyr ac yna’n fwy diweddar pan oedd y “Tywysog o Ganolwr” yn gohebu ar y gamp.